T-Rex Tom: Y dyn o Griccieth sy’n olrhain hanes y deinosoriaid

ITV Cymru
T-Rex Tom

Mae paleontolegydd o Gymru yn rhan o gynllun i adeiladu labordy paleontoleg gyhoeddus newydd dros y ffin yn Telford.

Mae Tom Moncrieffe, 26 o Griccieth yn gobeithio bydd cynllun yn hybu diddordeb a chynnig mwy o brofiad i bobl yn y maes. 

Bwriad y labordy newydd fydd olrhain hanes y deinosoriaid mewn hanes.

Yn ôl Tom mae diffyg pwyslais a phrofiadau i bobl sydd eisiau datblygu yn y maes.

“Does 'na ddim lot o siawns yn y wlad yma i gael y profiadau dwi isho neud. Does 'na ddim lot o baleontoleg yn mynd ymlaen,” meddai.

Ar ôl graddio o Brifysgol Caeredin mewn cwrs gradd meistr mewn paleontoleg, cafodd gyfle i fynd i wneud interniaeth yn Wyoming yn yr Unol Daleithiau, cyn derbyn swydd fel curadur yng Nghanolfan Deinosoriaid Wyoming. 

“Dydy o ddim y ‘typical career’ path yn y wlad yma. Fel arfer ‘da chi yn mynd ymlaen i wneud PhD a neud lot a lot o wirfoddoli, ac wedyn, ella, os da chi'n lwcus, cael swydd mewn amgueddfa.”

Mae Tom bellach yn ôl yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi derbyn swydd fel paleontolegydd yn Sŵ Telford, sydd yn edrych i ehangu eu harddangosfeydd hanes naturiol. 

Fel rhan o ddatblygiadau'r sŵ, maent yn adeiladu labordy paleontoleg gyhoeddus, lle bydd modd i’r cyhoedd ddod nid yn unig i arsylwi ond hefyd i gymryd rhan mewn adfer a chadw ffosilau.

Hon fydd yr ail labordy o’i bath ar draws Ewrop gyfan. 

“Fydd pobl yn cael siawns i ddod a gwneud y gwaith hefo fi.”

Bydd cyfle i’r cyhoedd lanhau a thrwsio ffosiliau o dan arweiniad Tom. 

“Fydd o yn brofiad gwahanol, newydd i bobl, achos dydy profiad fel ‘na ddim yn bodoli ym Mhrydain."

Gobaith Tom yw y bydd y labordy newydd yn magu diddordeb ac yn helpu darparu profiad ymarferol i fyfyrwyr, a chyfle gwirfoddoli nad oedd ar gael iddo ef.

“Byswn i yn hoffi meddwl bod ni yn gallu rhoi hwb i balaeontoleg yma a rhoi siawns i blant a myfyrwyr sydd eisiau cyfleoedd yn y maes. Profiadau sydd yn nes at adref nag yn Wyoming.”

Mae Tom hefyd wedi creu cysylltiadau agos gydag Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Brymbo, sydd yn gweithio i gloddio ar safle goedwig ffosil a gafodd ei darganfod ym Mrymbo, yng ngogledd ddwyrain Cymru.  

“Dwi wedi gwneud ffrindiau da hefo nhw yn fanna. Felly ‘da ni am greu partneriaeth gyda nhw i gael myfyrwyr o fa’ma a'r myfyrwyr sydd yn gweithio gyda nhw i gael swap occasionally. Ac maen nhw am adael i ni neud gwaith yn y Lab hefo ffosiliau sydd dod allan o Brymbo.”

 

Image
Tom a’r tim ym Mrymbo
Tom a’r tîm ym Mrymbo. Llun: ITV Cymru

Er nad yw mwyafrif o dirwedd Cymru yn ddelfrydol wrth edrych am ffosil o'r Oes Jwrasig, mae na botensial ac angen am fwy o waith ymchwil yn ôl Tom. 

“Mae o yn ffantastig bod llefydd fel Brymbo yn cael ei sefydlu yng Nghymru. Mae 'na bethau yn mynd ymlaen yng Nghymru.

“Mi rydan ni yn limited, ond dydy hynny byth yn stopio pobl i wneud y discoveries yma, neu'r research.”

Mae Tom yn gobeithio gweld mwy o bwyslais ar hanes natur mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn hybu diddordeb a dealltwriaeth well o hanes Cymru. 

“Pan o'n i yn yr ysgol o'n i yn teimlo oedd hynna ddim yn cael ei siarad digon am.

“Mae’n bwysig i ddysgu am Gymru, beth sydd yn mynd ymlaen, beth sydd wedi bod yng Nghymru a'r cerrig sydd wedi dod o Gymru.”

Image
Tom gyda esgyrn Triceratops
Tom gydag esgyrn Triceratops. Llun: ITV Cymru

Dim ond unwaith yr aeth i’r brifysgol y sylweddolodd Tom fod potensial troi ei ddiddordeb mewn natur a deinosoriaid yn swydd.

“Unwaith i fi gyrraedd y brifysgol, nes i sylwi actually mae hyn yn swydd go wir a ddim just breuddwyd ydy o. Mae o yn rwbath 'swn i yn gallu mynd amdan.” 

Mae hefyd yn pwysleisio sut mae dealltwriaeth well o hanes yn gallu ein helpu i ddeall mwy am hinsawdd y ddaear. 

“‘Da ni yn colli bywyd gwyllt, mae 'na rywogaethau yn marw allan, pethau sydd rhan fwyaf o’r amser y gellir ei osgoi yn llwyr. Ella bod astudio pethau sydd wedi marw allan yn hanesyddol, yn gallu neud ni sylwi fod o yn rhywbeth pwysig ni gorfod meddwl amdani.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.