Cyn-bennaeth diogelwch y Teulu Brenhinol yn galw am ymchwiliad yr heddlu i Andrew
Mae Cymro oedd yn gyn-bennaeth diogelwch ar y Teulu Brenhinol wedi galw ar yr heddlu i holi Andrew Mountbatten Windsor, y cyn-dywysog, am ei berthynas gyda Virginia Giuffre.
Bu farw Ms Giuffre yn Awstralia ym mis Ebrill o ganlyniad i hunanladdiad.
Roedd hi wedi honni yn ei hunangofiant, sydd wedi ei gyhoeddi ers ei marwolaeth, bod Mr Windsor wedi cael rhyw gyda hi ar dri achlysur pan yr oedd hi yn ei harddegau - honiad y mae cyn-Ddug Efrog wedi ei wadu.
Yn gyn-Brif Uwch Arolygydd gyda Heddlu'r Met, dywedodd Dai Davies wrth The Mirror fod gan Mr Windsor gwestiynau i'w hateb.
Dywedodd Mr Davies hefyd bod angen cynnal ymchwiliad i benderfyniadau'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron a wnaeth benderfynu peidio dwyn achos yn erbyn y cyn-dywysog.
Ymchwiliad
Yn ei gyfweliad gyda The Mirror, dywedodd Dai Davies ei fod am weld ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Andrew.
"Rwyf am iddo fod yn destun ymchwiliad. Dylai fod ymchwiliad gan yr heddlu ac os oes tystiolaeth fe ddylid ei gyfweld dan rybudd fel unrhyw un arall.”
Wrth drafod penderfyniad blaenorol yr awdurdodau i beidio ag ymchwilio'r hyn ddigwyddodd ymhellach, dywedodd Mr Davies:
“Rwyf eisiau gwybod pwy oedd yn gwybod am hyn? A beth wnaethon nhw ar bob lefel ar hyd y gadwyn? Pwy benderfynodd beidio â’i ddilyn?
"Ar ba lefel wnaethon nhw’r penderfyniad? A phwy wnaeth e?”.
Ychwanegodd Mr Davies: “Mae yna ddrewdod yma. Ble mae cwmpawd moesol pawb yn hyn?”.
