Y BBC yn dathlu 90 mlynedd o ddarlledu o Fangor

BBC BRYN MEIRION

Mae'r BBC yn dathlu 90 mlynedd o ddarlledu o Fangor ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd y gorfforaeth ddarlledu o Gymru am y tro cyntaf ym mis Chwefror 1923, ond o Gaerdydd y daeth yr arlwy bryd hynny.

Y darllediad cyntaf erioed o Fangor ar 1 Tachwedd 1935 oedd araith gan y cyn-Brifweinidog David Lloyd George i'r genedl, gyda'r geiriau "Rydym, mewn anrhydedd, yn rhwymedig i wneud ein gorau i ymuno ac amddiffyn unrhyw aelod arall o'r gynghrair" - y cyntaf i gael eu darlledu o'r ddinas.

Sam Jones oedd pennaeth cyntaf y ganolfan ym Mangor, a bu'n meithrin nifer o ddoniau ifanc yn enwedig yn nyddiau cynnar y rhaglen Noson Lawen, oedd hefyd yn cael ei recordio yn Neuadd y Penrhyn yn y ddinas.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, oherwydd ymdrechion y Natsïaid i fomio Llundain, fe benderfynodd penaethiaid y BBC i wneud y ganolfan ym Mangor yn gartref dros dro i holl adran adloniant y gorfforaeth, er na ddatgelwyd hyn yn gyhoeddus.

Symudodd nifer o sêr radio cynnar y BBC i Fangor yn ystod y cyfnod yma gan cynnwys Tommy Handley, Arthur Askey, Cavan O' Connor a Charlie Chester.

Un o ddatblygiadau mwya'r BBC yng Nghymru oedd sefydlu gwasanaeth Radio Cymru yn 1977 ac ers hynny, mae tua hanner y rhaglenni wedi eu cynhyrchu a'u darlledu o Fangor.

'Dangos ymrwymiad'

Dywedodd y darlledwr a newyddiadurwr Dewi Llwyd: "Mae BBC Bangor wedi bod yn gonglfaen i ddarlledu Cymraeg o'r dechrau'n deg ac yn parhau gan obeithio y bydd yn parhau i wneud hynny am ddegawdau i ddod hefyd.

"Mae o'n dangos ymrwymiad y BBC ar hyd y blynyddoedd i'r Gymraeg yn y rhan yma o'r byd, felly fyswn i'n dadlau ei bod hi wedi bod yn dyngedfennol bod presenoldeb rhaglen fel hon a Dros Ginio yn rhannol erbyn heddiw beth bynnag yn parhau yn y rhan yma o'r byd."

Ychwanegodd Marian Wyn Jones, cyn-benaeth y BBC yn y gogledd: "Dwi'n teimlo'n eithriadol o falch o'r rhan bach nes i chwarae ar hyd y naw degawd. Dwi'n meddwl yn benodol falle am ddechre Radio Cymru a Radio Wales, o'n i'n rhan bach o'r weledigaeth gychwynnol honno felly. Y'n ni 'di gweld twf darlledu teledu o'r gogledd am ran o'r cyfnod yna.

"Ond cyn bwysiced â dim, rwy'n credu ydy bod y ganolfan yn parhau i gyfrannu a bod yn gonglfaen darlledu Cynraeg a Chymreig o'r gogledd."

'Bangor wedi dal ei dir'

Dywedodd y darlledwr Dei Tomos: "Mi oedd yn rhoi cyfle i bobl i ddarlledu o Fangor yn hytrach na bo' nhw 'mond yn medru darlledu o Gaerdydd neu rhywle felly ac ar un adeg mi oedd y rhwydwaith 'ma yn bwysig bod Abertawe, Aberystwyth, Caerfyrddin, Bangor a Wrecsam yn medru cyfrannu.

"Mae hwnnw 'di lleihau rhywfaint, ond mae Bangor wedi dal ei dir, ac mae 'na enwau mawr, a 'da i ddim i ddechrau eu henwi nhw, wedi datblygu gyrfa a wedi symud yn eu blaenau o Fangor."

Mae'r BBC yn cyflogi dros 1200 o bobl yng Nghymru erbyn hyn ac yn parhau i gynhyrchu ystod eang o raglenni teledu a radio a gwasanaethau ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Heddiw, mae cynrychiolaeth o bob platfform newyddion y BBC yng Nghymru yn parhau i weithio o'r stafell newyddion ym Mangor, yn ogystal â staff sy'n gweithio ar raglenni Radio Cymru a Radio Cymru 2. Mae canolfan gwynion y BBC yng Nghymru hefyd wedi ei lleoli ym Mangor.

(Prif lun: Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.