Cip ar gemau penwythnos y Cymru Premier JD
Mae yna fwlch sylweddol wedi agor ar frig y tabl wedi i’r Seintiau ennill naw gêm gynghrair yn olynol gan godi naw pwynt uwchben Pen-y-bont yn yr ail safle.
Ar waelod y gynghrair mae yna frwydr ddiddorol yn datblygu rhwng Hwlffordd, Llansawel a’r Fflint, gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri chlwb sy’n ceisio osgoi’r cwymp.
Bydd y tri rheiny yn wynebu’r tri tîm ucha’n y tabl y penwythnos yma, tra bydd Bae Colwyn yn brwydro gyda’r Barri, a Met Caerdydd yn croesawu Cei Connah yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Caernarfon (3ydd) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i Gaernarfon brynhawn Sadwrn gyda’r Cofis yn curo Pen-y-bont i ddod a rhediad o pedair gêm gynghrair heb ennill i ben.
Mae Llansawel wedi llithro i lawr a tabl, a bellach dyw tîm Andy Dyer m’ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (colli 6, cyfartal 3).
Mae Caernarfon wedi cadw llechen lân yn eu dwy gêm ddiwethaf, tra bo Llansawel m’ond wedi sgorio unwaith mewn pum gêm.
Mae Caernarfon wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Llansawel, ac felly bydd y Cochion yn anelu am eu pwyntiau cyntaf erioed yn erbyn y Cofis.
Mae tair gêm gynghrair nesaf Caernarfon yn erbyn y tri isaf yn y tabl, sy’n golygu bydd Richard Davies yn awyddus i gipio naw pwynt a chamu ‘nôl i’r ail safle.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏❌❌❌➖✅
Llansawel: ͏❌➖✅❌❌
Hwlffordd (11eg) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 11 gêm yn olynol ym mhob cystadlueaeth, ac yn dechrau’r penwythnos naw pwynt uwchben Pen-y-bont (2il).
Brwydrodd Hwlffordd yn galed i gipio pwynt oddi cartref yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf (Cei 3-3 Hwl), ond mae’r Adar Gleision yn dal i eistedd yn safleoedd y cwymp.
Sgoriodd Ryan Brobbel ei 100fed gôl gynghrair i’r Seintiau nos Wener diwethaf, ac mae’r chwaraewr creadigol yn mwynhau tymor safonol arall gan mae dim ond ei gyd-chwaraewr, Jordan Williams (sgorio 12, creu 3) sydd wedi cyfrannu at fwy o goliau na Brobbel (sgorio 6, creu 8).
Mae’r Seintiau wedi ennill eu 11 gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd yn cynnwys buddugoliaeth o 5-0 ym mis Medi ble sgoriodd Jordan Williams hatric i’r pencampwyr.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd (6ed) v Cei Connah (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Met Caerdydd ar garlam ac wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb golli (ennill 5, cyfartal 1), yn cynnwys buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Y Fflint nos Sadwrn.
Roedd y myfyrwyr yn yr 11eg safle ar ddiwedd mis Medi ac heb ennill gêm cyn achosi sioc drwy guro Caernarfon o 3-0 ar Barc Maesdu, ac ers hynny dyw carfan Ryan Jenkins heb edrych yn ôl gan saethu i fyny i’r 6ed safle.
Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, a bellach mae’r clwb ar y trywydd cywir i ail-adrodd y gamp unwaith yn rhagor eleni.
Bydd Cei Connah yn ysu i ddychwelyd i’r hanner uchaf ar ôl tymor siomedig llynedd, ac wedi rhediad o chwe gêm heb golli mae’r Nomadiaid hefyd mewn safle addawol i gyrraedd y nod.
Mae Cei Connah wedi ennill saith o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, ond cyfartal 1-1 oedd hi yn y gêm gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅✅✅➖✅
Cei Connah: ➖✅✅✅➖
Y Fflint (9fed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Fflint yn dechrau’r penwythnos bedwar pwynt o dan y 6ed safle, a dim ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Mae’r Sidanwyr wedi disgleirio ar adegau y tymor hwn, ond mae carfan Lee Fowler wedi ildio gormod o goliau (2.2 gôl y gêm), a dim ond Llanelli sydd â record amddiffynnol waeth (2.9 gôl y gêm).
Mae Pen-y-bont wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol gan golli gafael ar y ceffylau blaen, ond bydd angen i’r Gleision ymateb yn sydyn i gael aros yn yr ail safle, fydd yn ddigon i hawlio lle’n Ewrop ar ddiwedd y tymor.
Dyw Pen-y-bont heb golli yn eu pum gornest ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (ennill 4, cyfartal 1), a bydd Rhys Griffiths yn gobeithio parhau â’r record hwnnw ddydd Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅❌❌✅❌
Pen-y-bont: ͏✅➖✅❌❌
Bae Colwyn (5ed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Mae Bae Colwyn yn mynd o nerth i nerth ac yn eistedd yn daclus yn y 5ed safle yn dilyn rhediad o bum gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 4, cyfartal 1).
Y Gwylanod sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair (ildio 0.6 gôl y gêm) ac mae carfan Michael Wilde wedi cadw llechen lân yn eu pum gêm ddiwethaf.
Tydi pethau ddim yn mynd cystal i’r Barri sydd heb ennill dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 3, colli 2).
Wedi 14 gêm gynghrair does dim un o chwaraewr Y Barri wedi sgorio mwy na dwy gôl, ac fe gafodd tîm Steve Jenkins ddigon o gyfleon i guro’r Bala ddydd Sadwrn diwethaf ond roedd y blaenwyr yn wastraffus (Bala 0-0 Barri).
Dyw Bae Colwyn heb golli dim un o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 2, cyfartal 2), ac fe orffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Awst.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏❌✅✅➖✅
Y Barri: ➖❌❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.