60 mlynedd: Trigolion yn cofio Tryweryn

ITV Cymru
Tryweryn

60 mlynedd ers i bentref Capel Celyn gael ei foddi mae trigolion y pentref yn cofio'r hyn ddigwyddodd fel rhan o raglen ddogfen newydd.

Cafodd cronfa ddŵr Llyn Celyn, ger Bala, ei hagor ym mis Hydref 1965 er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Fe gymerodd 10 mlynedd i gynllunio’r llyn artiffisial enfawr a dadleuol, gyda phentref, a oedd wedi bodoli am ganrifoedd, yn cael ei ddymchwel drwy foddi’r dyffryn yn llwyr.

O dan ddyfroedd llonydd Llyn Celyn, mae adfeilion y gymuned Gymraeg gafodd ei haberthu er mwyn cwrdd â galw dinas yn Lloegr am ddŵr. 

Roedd gan bentref Capel Celyn ysgol, capel a swyddfa bost. Ar fryniau cyfagos Dyffryn Tryweryn, roedd bythynnod a ffermydd lle roedd teuluoedd wedi gweithio'r tir am genedlaethau.

‘Torcalonnus’

Wrth hel atgofion, dywedodd Buddug Medi, a oedd yn arfer pregethu yn y capel yno: “Roedd [y capel] yn golygu popeth i bobl Capel Celyn. Roedd presenoldeb da ynddo ac roedd yn ganolbwynt i’n bywydau ni.

“Pregethais yno gyntaf pan oeddwn i’n 19 oed, ond roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio am nifer o bethau mewn gwirionedd. Yn ogystal â chrefydd, roedden ni’n cynnal Eisteddfodau yno, er enghraifft.

“Diwedd ein bywyd cymdeithasol a chrefyddol oedd hi pan gafodd y capel ei ddymchwel. Roedd yn dorcalonnus.

“Dim ond llwch oedd ar ôl. Fe gollon ni holl hanes y pentref.”

Cafodd cerrig o’r capel ac adeiladau eraill yn y pentref eu defnyddio i adeiladu Capel Coffa Capel Celyn ym 1967. Cafodd y capel ei ddylunio gan y cerflunydd Cymreig, R. L. Gapper, a’r pensaer o Lerpwl, Ronald Bradbury. Mae’r Capel Coffa yn sefyll dros y gronfa ddŵr hyd heddiw.

Fe wnaeth y gofeb dderbyn statws Gradd II gan Cadw, y corff sy’n diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru, yn 2019.

Image
Roedd gan bentref Capel Celyn ysgol, capel a swyddfa bost.
Roedd gan bentref Capel Celyn ysgol, capel a swyddfa bost. (LLUN: ITV Cymru)


Cafodd trigolion Capel Celyn eu synnu’n llwyr ym 1955 ar ôl i Gyngor Lerpwl gyhoeddi’i fwriad i adeiladu cronfa ddŵr yng Nghwm Tryweryn. 

Fe dderbynion nhw’r newyddion drwy ddarllen rhifyn Gymraeg o’r Liverpool Daily Post ychydig ddiwrnodau cyn Nadolig y flwyddyn honno.

Esboniodd Cyngor Lerpwl fod angen cyflenwadau dŵr ychwanegol arnyn nhw i adfywio ac ailddatblygu’r ddinas ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

‘Cartrefi’n cael eu hachub’

Dywedodd Aeron Prysor Jones, a gafodd ei fagu yn y pentref: “Cyrhaeddodd cwmni o gontractwyr y dyffryn a dechreuon nhw gloddio tyllau ym mhob cae bron. 

“Cawson nhw eu holi am reswm eu presenoldeb, a’r ateb oedd eu bod nhw’n gwneud arolwg i weld beth oedd cynnwys mwynau’r dyffryn. Doedd dim rheswm gennym ni i beidio ymddiried ynddyn nhw.

“Ond, wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd hi’n amlwg mai pwrpas y tyllau hyn oedd darganfod os oedd ganddyn nhw ddigon o adnoddau yn y dyffryn i adeiladu’r argae yno.

“Pan oedden ni yn yr ysgol, dwi’n cofio llawer o bobl - cynghorwyr, aelodau seneddol a phobl debyg - yn dweud wrthon ni, fel plant, ‘Peidiwch â phoeni - bydd eich cartrefi’n cael eu hachub’. 

"Ond dwi’n tybio mai ‘mond rhywbeth i’n cadw ni’n hapus oedd hynny.”

Er gwaetha’r protestiadau ffyrnig yng Nghymru, y deisebau i’r Senedd, a’r gorymdeithiau angerddol ar strydoedd Lerpwl, cafodd y pentref ei ddinistrio’n llwyr, a boddwyd 800 erw o dir.

Image
 Llun o ddisgyblion ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol yng Nghapel Celyn cyn i’r pentref gael ei ddymchwel.
Llun o ddisgyblion ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol yng Nghapel Celyn cyn i’r pentref gael ei ddymchwel. (LLUN: ITV Cymru)

‘Byw bywyd newydd mewn lle newydd’

Un o’r plant a gollodd ei bentref oedd bachgen ifanc ag enw arbennig iawn - Tryweryn Evans. Mae e’n dal i gofio’i ddyddiau olaf yn ei bentref.

“Pan gafodd popeth ei ddymchwel, roedden ni’n meddwl, ‘Pam maen nhw wedi gwneud hyn? Beth sy’n digwydd i ni? Mae’n rhaid byw bywyd newydd mewn lle newydd.’,” meddai.

“Am flynyddoedd wedyn, roeddwn i’n arfer meddwl, ‘Ydyn ni byth yn mynd i fynd yn ôl yno? Efallai dim ond breuddwyd ddrwg oedd e.’ Roedd e mor drist."

Image
Dyma sut mae’r gronfa ddŵr yn edrych heddiw
Dyma sut mae’r gronfa ddŵr yn edrych heddiw. (LLUN: ITV Cymru)

Mae'r lleisiau hyn i'w clywed ar Vanished Wales: The Village Under The Lake sydd ar gael i'w gwylio ar ITVX.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.