Cyhuddo dyn o Wrecsam o gynorthwyo hunanladdiadau
Mae dyn o Wrecsam wedi ei gyhuddo o annog neu gynorthwyo dau hunanladdiad yn dilyn honiadau ei fod wedi gwerthu cemegau ar-lein.
Cafodd Miles Cross, 33 oed, ei arestio ym mis Ionawr 2025 mewn cysylltiad â gwerthu sylwedd i gynorthwyo hunanladdiad.
Daeth y cyhuddiadau i’r wyneb yn dilyn ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i mewn i fusnes sy'n gwerthu sylwedd ar-lein.
Cafodd Mr Cross ei gyhuddo ddydd Gwener 12 Medi o bedwar cyhuddiad o wneud gweithred yn fwriadol a allai annog neu gynorthwyo hunanladdiad rhywun arall, yn groes i Adran 2 (1) o Ddeddf Hunanladdiad 1961.
Dywedodd Malcolm McHaffie, Pennaeth Adran Troseddau Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Rydym wedi penderfynu erlyn Miles Cross gyda phedair trosedd o annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn dilyn ymchwiliad heddlu i fusnes sy'n gwerthu sylwedd trwy fforwm ar-lein.
“Mae ein herlynwyr wedi gweithio i sefydlu bod digon o dystiolaeth i ddod â'r achos i'r llys a'i bod er budd y cyhoedd i ddilyn achos troseddol.
“Rydym wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt gynnal eu hymchwiliad.”
Bydd Mr Cross yn ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ar ddydd Iau, 16 Hydref.