Dau rybudd melyn am law trwm ddydd Mercher
Mae dau rybudd melyn am law trwm wedi eu cyhoeddi i rannau helaeth o Gymru ar gyfer dydd Mercher.
Fe allai'r glaw arwain at lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, ac fe all effeithio ar amseroedd teithio ar y ffyrdd.
Fe all effeithio ar wasanaethau bysiau a threnau hefyd.
Mae'r rhybudd cyntaf yn dod i rym rhwng 03:00 a 12:00 ac mae'n berthnasol i'r siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
Mae'r ail rybudd yn dod i rym am 06:00 ddydd Mercher ac fe fydd mewn grym hyd at 23:00.
Mae'r rhybudd yma'n berthnasol i'r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Merthyr Tudful
- Nedd Port Talbot
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Bro Morgannwg