Poeni am ddyfodol Rygbi Gogledd Cymru yn ystod ymgynghoriad ar ddyfodol y gamp

Newyddion S4C

Poeni am ddyfodol Rygbi Gogledd Cymru yn ystod ymgynghoriad ar ddyfodol y gamp

Wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ymgynghori ar ddyfodol y gêm broffesiynnol yma, mae cyn-gadeirydd yr undeb wedi galw am fwy o eglurder i’r haenau o dan y lefel elît. 

Yn y gogledd mae nifer yn gofyn beth fydd y dyfodol i ranbarth Rygbi Gogledd Cymru (RGC) gafodd ei sefydlu bymtheg mlynedd yn ôl i ddatblygu chwaraewyr proffesiynnol. 

Mae disgwyl i’r ymgynghoriad ddod i ben ddiwedd y mis. 

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi dros £1m dros y flwyddyn diwethaf i helpu'r clwb gyda sawl cost.

Yn ôl Gareth Davies, fu’n Gadeirydd Undeb Rygbi Cymru tan 2020, mae angen “negeseuon positif” gan yr Undeb i’r gymuned rygbi y tu hwnt i’r lefel broffesiynnol. 

“Fydden ni’n meddwl dylen nhw canolbwyntio fwy ar trial egluro beth sy’n mynd ‘mlan.” medd Mr Davies.

“Ar y funud ‘na gyd ni’n gael yw’r headlines fel petae o beth yw’r opsiynau’n mynd i fod. Lot o bwyslais ar bedwar neu dau neu dri rhanbarth ac wrth gwrs mae lot o rygbi tu cefn i hwnna. Y gêm gymunedol, y gêm ieuenctid, y gêm yng ngogledd Cymru.

“Felly fydden i’n dweud bod angen fwy o siarad a mwy o negeseuon positif i fynd mas i’r gymuned rygbi.”

'Poeni am y dyfodol'

Fis diwethaf, fy gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n ymgynghori ar ailstrwythuro’r lefel broffesiynnol gyda phedwar model yn cael eu cynnig. 

Mae’r undeb yn ffafrio haneru nifer y rhanbarthau presennol o bedwar i ddau fydd â chyllid cyfartal (Model D). 

Yr opsiynnau eraill sy’n cael eu cynnig yw pedwar clwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model A), tri chlwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model B) neu dri chlwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model C).

Byddai Model A ac C yn cynnwys rhanbarthau datblygu, sef y statws sydd gan ranbarth RGC ar hyn y bryd.  

Yn ôl un o chwaraewyr y rhanbarth hwnnw, Billy McBryde, mae’r ansicrwydd presennol yn golygu bod rhai chwraewyr yn debygol o fynd i chwarae mewn gwledydd eraill. 

“Mae’n anodd. Fel chwaraewr, ‘dan ni’n poeni amdan dyfodol ni yma," meddai.

“Os ti’n 17, 18 oed yn tyfu fyny, ti’m yn gweld y golau ar hyn o bryd, a mae hwnna’n pwsio pobl i fynd dros y bont neu i Ffrainc a llefydd fel ‘na.”

Image
Billy McBryde
Mae Billy McBryde wedi chwarae i'r clwb ers 2024.

Un o chwaraewyr y rhanbarth ers pan oedd yn ei arddegau ydy Caio Parry.

“Fysa fo’n neis gallu gwybod be’ ydy’r plan," meddai.

"A gallu gwbod be’ ydy dyfodol gogledd Cymru o ran, ydy o’n mynd i fod yn ‘pro’ region neu ddim?

“Achos dyna ydy gôl ni fel tîm ydy gallu bod yn broffesiynnol.”

Dydy’r rhanbarth ddim wedi cael unrhyw gyswllt gan URC hyd yn hyn ynglyn â’r ymgynghoriad yn ôl Rheolwr Cyffredinol RGC, Alun Pritchard. 

“Does dim trafodaethau wedi bod gyda ni hyd yma," meddai. "Mae’n anodd, o ran cyllidebau, strwythur staffio.

“Ond be’ den ni’n trio wneud ydy canolbwyntio ar yr elfennau positif. ‘Den ni’n gweld hyn fel cyfle go iawn i rygbi yng ngogledd Cymru.

“Petae chi’n cymharu’r cryfderau a’r gwendidau yma, mae ‘na gyfle gwirioneddol i’r gamp yn y gogledd.” 

'Pwysig'

Yn ôl Geraint John o Undeb Rygbi Cymru: “Dros y deg mlynedd diwethaf ni wedi rhoi llawer o arian mewn i Rygbi Gogledd Cymru, dros un miliwn o bunnoedd bob flwyddyn i helpu talu am y staff, helpu'r chwaraewyr, helpu'r academi, academi bechgyn, academi merched i helpu rhedeg Dewar Shield, yr ysgolion, gemau dan 16, o dan 18.

"So 'na beth ni wedi 'neud nid dim ond ar y cae ond off y cae hefyd fel staff, officers lan yn y gogledd hefyd. 

"So, ni yn 'neud yn siŵr bo' ni'n gweithio lan yna, helpu nhw ac mae'n bwysig i ni fel undeb dros Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.