Sir Benfro: Teyrngedau teuluoedd i ddau ddyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teuluoedd dau ddyn ifanc, 18 a 23 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro wedi rhoi teyrngedau iddynt.
Bu farw Aled Coleman (chwith) ac Aled Bowen (dde) wrth deithio yn yr un cerbyd mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 rhwng Hwlffordd a Threfgarn fore Sul 14 Medi.
Dywedodd teulu Aled Bowen, 18 oed, bod ei bresenoldeb wedi "gwneud y byd yn lle mwy disglair."
"Roedd Aled yn fab annwyl, brawd ac ewythr cariadus ac yn berson oedd yn cynnig cariad a chryfder i bawb oedd yn ddigon ffodus i'w adnabod," medden nhw.
"Er bod ein calonnau wedi torri, rydym yn gafael yn dynn yn yr atgofion ohono. Bydd ei garedigrwydd a'i enaid yn byw gyda ni am byth.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tosturi a'r gweddïau rydym wedi derbyn gan bawb.
"Rydym yn cymryd cysur o'i gofio nid yn unig fel mab a brawd ond fel rhywun oedd yn gwneud y byd yn lle mwy disglair."
'Gofalgar'
Bu farw Aled Coleman, 23 oed, o bentref Scleddau yn Sir Benfro yn y gwrthdrawiad hefyd.
Dywedodd ei deulu ei fod yn berson "gofalgar, cyfeillgar, hwyl a chariadus."
Ychwanegodd y teulu y bydd "yn cael ei golli gan ei holl deulu."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i ffordd yr A40 rhwng Hwlffordd a Threfgarn toc wedi 03.10 ddydd Sul yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd oedd yn ymwneud â Volkswagen Polo arian.
Mae'r llu yn parhau i apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau camerâu cylch cyfyng, i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 25*760810.