Deddf sy’n caniatáu codi treth ar dwristiaid yn dod i rym yng Nghymru
Mae deddf newydd sy’n caniatáu i gynghorau godi treth o £1.30 y noson ar dwristiaid sy'n aros dros nos wedi dod i rym yng Nghymru ddydd Iau.
Wrth gyhoeddi bod y ddeddf wedi dod i rym dywedodd Llywodraeth Cymru bod “llawer o wledydd ledled y byd yn elwa o ardollau tebyg”.
“Bydd cyfraniad bach yn helpu i gynnal yr atyniadau sy'n gwneud Cymru yn gyrchfan wych i dwristiaid,” medden nhw.
Nid oes disgwyl i gynghorau ddechrau codi'r dreth, a fydd yn berthnasol i arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru, nes 2027 ar y cynharaf.
Mae hynny oherwydd y bydd angen i gynghorau gynnal ymgynghoriad a rhoi 12 mis o rybudd o’r newidiadau.
Mae cynghorau Gwynedd, Ynys Môn a Chaerdydd wedi dangos diddordeb mewn cyflwyno’r dreth.
O godi’r dreth bydd modd i gynghorau fuddsoddi'r arian mewn seilwaith twristiaeth gan gynnwys toiledau, llwybrau troed, traethau a chanolfannau ymwelwyr.
'Cynnal a gwella'
Roedd y polisi yn rhan o'r cytundeb cydweithredu a lofnodwyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2021.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r newid gan ddweud y bydd yn peryglu swyddi'r 159,000 o bobl sy’ gweithio yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin hefyd wedi codi amheuon mewn adroddiad y llynedd gan ddweud y gallai’r newid atal ymwelwyr rhag dod i Gymru.
Ond werth i’r Senedd basio’r ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf dywedodd y Gweinidog Cyllid Mark Drakeford y bydd yn “sicrhau bod y pwysau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil twristiaeth yn cael eu cydbwyso'n deg rhwng ymwelwyr a thrigolion”.
"Mae'r ardoll yn gyfraniad bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau, gan helpu i gynnal a gwella'r atyniadau a'r gwasanaethau hynny sy'n gwneud Cymru yn lle mor wych i ymweld ag ef a byw ynddo.”
Bydd modd codi £0.75 y noson i rai sy'n aros ar safleoedd gwersylla a £1.30 y pen y noson i'r rhai sy'n aros ym mhob math arall o lety ymwelwyr.