Starmer am gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd ‘ar ôl i Donald Trump adael’

Starmer a Trump

Fe fydd Keir Starmer yn cydnabod bodolaeth gwladwriaeth Balesteinaidd dros y penwythnos ar ôl i Donald Trump orffen ei ymweliad gwladol â'r DU, yn ôl adroddiadau.

Roedd y Prif Weinidog wedi dweud ym mis Gorffennaf ei fod yn bwriadu cydnabod gwladwriaeth Palesteinaidd cyn cynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yn hwyrach yn y mis.

Fe fyddai yn gwneud hynny os nad oedd Israel yn ymrwymo i gadoediad yn Gaza ac yn derbyn bod angen dwy wladwriaeth yno ac ar y Llain Orllewinol, meddai.

Ond yn ôl papur newydd y Times roedd wedi gohirio cyhoeddi'n ffurfiol y bydd y DU yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd tan ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau adael.

Roedd hynny oherwydd pryderon y gallai’r cyhoeddiad newid ffocws cynhadledd newyddion gan yr arweinwyr ddydd Iau.

Mae disgwyl i’r gynhadledd honno weld cyhoeddi buddsoddiad o £150 biliwn gan gwmnïau o’r Unol Daleithiau ym Mhrydain.

Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau a’r Prif Weinidog arwyddo’r cytundeb newydd ar dechnoleg wrth iddyn nhw gwrdd yn Chequers yn Swydd Buckingham ddydd Iau.

Bydd y buddsoddiad yn cynnwys £90 biliwn gan y cwmni rheoli buddsoddiadau Blackstone, a £1.5 biliwn gan y cwmni AI Palantir.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd 7,600 o swyddi “safon uchel” yn cael eu creu gan y buddsoddiad.

Bydd Donald Trump a Keir Starmer hefyd yn trafod y gwrthdaro yn Wcrain a Gaza.

'Uchelgeisiol'

Daw hyn wedi i Donald Trump roi teyrnged i berthynas yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig mewn gwledd gyda’r Brenin Charles III ddydd Mercher.

Roedd y gwesteion yn cynnwys penaethiaid cwmnïau technoleg mawr yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Tim Cook o Apple a Sam Altman o OpenAI.

Dywedodd Mr Trump wrth y gwesteion a oedd wedi ymgynnull yng Nghastell Windsor: “O safbwynt Americanaidd, nid yw’r gair ‘arbennig’ yn gwneud cyfiawnder iddo.”

Wrth ymateb i’r buddsoddiad dywedodd y Prif Weinidog eu bod nhw’n “llunio’r dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod”.

“Mae’r buddsoddiadau hyn yn dangos cryfder economaidd Prydain ac yn arwydd bod ein gwlad yn agored, yn uchelgeisiol ac yn barod i arwain,” meddai.

“Roeddwn i wedi addo swyddi, twf a chyfle i bobl sy’n gweithio, a dyna’n union yr hyn y mae’r ymweliad gwladol hwn yn ei gyflawni.”

Llun: Phil Noble / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.