Pryderon am ragor o gigiau ar gaeau chwarae yng Nghaerdydd

18/09/2025
Lewis Capaldi

Mae yna bryderon am gynnal rhagor o gigiau ar gaeau chwarae yng Nghaerdydd wrth i gyfres newydd o sioeau gael eu cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Roedd artistiaid gan gynnwys Stevie Wonder, Alanis Morissette, Noah Kahan, a Slayer wedi perfformio fel rhan o gyfres Blackweir Live yn y brifddinas ym misoedd Mehefin a Gorffennaf eleni.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd Cyngor Caerdydd gyfres newydd o gigiau ar y caeau chwarae gan ddweud eu bod nhw wedi bod yn llwyddiant ac wedi dod ag arian ychwanegol i mewn.

Bydd Lewis Capaldi (uchod) ymhlith y perfformwyr yn Blackweir Live yn 2026.

Ond mae grŵp trigolion lleol Cyfeillion Parc Bute wedi mynegi pryderon am draffig, sŵn, llygredd a mynediad y cyhoedd at y parc.

“Er bod Cyngor Caerdydd a threfnwyr digwyddiadau yn honni bod £35m o enillion economaidd a manteision diwylliannol, mae’r manteision hyn yng nghysgod yr effeithiau ar yr amgylchedd, trigolion a seilwaith,” medden nhw.

“Mae’r model digwyddiadau hwn wedi methu â chyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd craidd ac mae hyder y gymuned yng ngallu Cyngor Caerdydd i reoli digwyddiadau mewn parciau cyhoeddus wedi’i erydu’n ddifrifol.”

Roedd eu pryderon yn cynnwys torri coed er mwyn creu mynediad i’r safle a dros 100 o gwynion i’r cyngor am y sŵn, medden nhw.

Image
Blackwird Live
Maes Blackweir Live

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod 49% o’r rheini oedd wedi mynd i Blackweir Live wedi teithio o'r tu allan i Gymru a bod 2.6% wedi dod o'r tu allan i'r DU.

Roedd y digwyddiadau wedi cyflogi 3,118 o bobl a bod 95% o'r swyddi hynny mewn busnesau yng Nghymru, medden nhw.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn cyfweliad eleni y bydd incwm o Blackweir Live yn helpu'r cyngor i osgoi penderfyniadau cyllidebol anodd yn y dyfodol.

Roedd ymateb cadarnhaol i’r gigiau hefyd ymysg pobl busnes yng Nghaerdydd.

Dywedodd rheolwr cyffredinol tafarn y Blue Bell yn Stryd Santes Fair, Nick Newman, fod Blackweir Live yn “wych” o safbwynt busnes ac nad oedd yn adnabod unrhyw fusnes yng nghanol y ddinas nad oedd yn croesawu’r gigau.

“Dyma sydd raid i ni ei wneud fel prifddinas i hyrwyddo ein hunain,” meddai Mr Newman, sydd hefyd yn gadeirydd Fforwm Trwyddedigion Caerdydd ac yn aelod o fwrdd FOR Cardiff.

“I dafarndai, bariau a chlybiau, y mwyaf o ddigwyddiadau sydd gennym yng nghanol y ddinas, y gorau.

“Wrth gwrs, mae Caerdydd yn ddinas y mae pobl yn teithio iddi ac mae’r enw da hwnnw’n tyfu, byddwn i’n dweud, o flwyddyn i flwyddyn.

“Felly, roeddem yn gefnogol i ddigwyddiadau Blackweir ochr yn ochr â digwyddiadau’r Castell a’r digwyddiadau sydd gennym yn stadiwm [Principality] drwy gydol y flwyddyn.”

Image
Traffig cyn gig Blackweir Live ar Gorffennaf 4
Traffig cyn gig Slayer Blackweir Live ar 4 Gorffennaf

Roedd yna bryderon am effaith y gigiau ar gaeau chwarae ond dywedodd Syed Abbas, cadeirydd Clwb Criced y Bay Dragons nad oedd “y dirywiad disgwyliedig heb ddigwydd”.

“Doedd gennym ni ddim unrhyw broblem gyda Blackweir Live. Roeddent yn barod iawn i helpu ac fe wnaethon nhw gadw at eu contract.

“O ran dyfodol criced yn Blackweir neu o leiaf i Bay Dragons os oes rhaid i Blackweir Live fodoli yna mae angen i ni ddysgu cydfodoli ond hoffem ni gael rhywfaint o gefnogaeth gan y cyngor a Blackweir Live.

“Os ydym yn gorfod dioddef rhywfaint o ddifrod efallai y bydd modd lliniaru’r risgiau drwy fuddsoddi rhywfaint o gyllid.”

Ond dywedodd cadeirydd Cynghrair Criced Canol-wythnos Caerdydd (CMCL), Khawaja Ali Ajmal, nad oedd wedi cael gwybod am benderfyniad Cyngor Caerdydd i fwrw ymlaen â Blackweir Live yn 2026.

Dywedodd: “Ymddengys bod y cyngor yn manteisio’n ariannol yn llawn ar y digwyddiad heb unrhyw ail-fuddsoddi gweladwy mewn criced, boed hynny drwy ddatblygu rhagor o gaeau criced, gwella cyfleusterau, neu gefnogi’r gamp yn lleol mewn unrhyw ffordd.

“Mae’n siomedig nad oes unrhyw ddeialog gyda ni fel rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.