
Cyn-leidr: Pobl yn dwyn o siopau 'i oroesi cyfnod heriol'
Mae dyn oedd yn arfer dwyn o siopau er mwyn bwydo ei ddibyniaeth ar gyffuriau wedi dweud fod pobl erbyn hyn yn "dwyn er mwyn goroesi" mewn cyfnod heriol.
Roedd Cullen Mais, 34 oed, o Gaerdydd yn arfer dwyn nwyddau o siopau er mwyn eu gwerthu i gael arian i brynu cyffuriau.
Ond ers iddo dderbyn triniaeth, nid yw bellach yn gaeth i gyffuriau ac mae wedi stopio dwyn yn gyson o siopau.
Er bod lladrata Mr Cullen yn gysylltiedig â'i ddefnydd o gyffuriau, mae'n awgrymu bod mwy wrth wraidd y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf mewn lladrata:
“Nawr oherwydd yr argyfwng costau byw, rydym yn gweld pobl sy'n dwyn o siopau jyst i oroesi," meddai.
“Mae'r system wedi torri. Mae'r heddlu wedi datgan na fyddant yn ymdrin ag unrhyw beth sy'n ymwneud â lladrad siop sydd werth llai 'na £200.
“Mae pobl yn cael trafferth i dalu'r biliau, ac maen nhw'n meddwl, 'wyddoch chi beth, os nad ydw i'n mynd i gael fy nghyhuddo am hyn… os yw'n golygu bwydo fy mhlentyn, dwi am ei wneud'."
Mae ffigyrau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod achosion o ladrata o siopau wedi cynyddu 3% yn y flwyddyn ddiwethaf.
'Dim yn cael ei wneud'
Dywedodd Mr Mais nad yw'r siopau i gyd yn adrodd yr holl achosion o ddwyn i'r heddlu, gan eu bod yn teimlo nad oes "dim yn cael ei wneud".
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ardal Heddlu Gwent sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o ladrata, gyda chynnydd o 27% yn yr achosion ers y llynedd.
Dywedodd Vicky Jones, sy'n reolwraig siop Poundstretcher yng Nghasnewydd, bod achosion o ddwyn yn digwydd yn ddyddiol: “Dwi wedi bod yma am tua chwe mis, a dwi wedi gweld cynnydd cyson mewn pobl sy'n dwyn ers i mi fod yma.”
Mae Ms Jones yn dweud ei bod hi'n teimlo bod lladrata yn rhywbeth cyffredin yn ardal Casnewydd.
Dywedodd wrth ITV Cymru: “Fan hyn ydy’r gwaethaf dwi wedi'i weld. Dwi wedi gweithio mewn cryn dipyn o siopau, ond dwi erioed wedi gweld dim byd mor ddrwg â'r ardal hon.”
Dywedodd James Lewis sy'n rheolwr siop elusen PDSA ei fod yn bryderus fod achosion cynyddol o ladrata eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ganol y dref.
“Mae'r cwsmeriaid yn gweld lladrad yn digwydd, ac dy’ nhw ddim yn dod yn ôl wedyn.
“Rydyn wedi gweld cymaint o siopau yn cau ers Ionawr 2025. Mae busnesau yn mynd, a dydyn nhw ddim yn dychwelyd... felly mae’r stryd fawr yn wag o ganlyniad,” meddai.
Mae perchennog siop arall yn y ddinas, James Hayman, sy'n rhedeg siop Dragon Vault Games, yn adleisio’r pryder am yr effaith ariannol mae lladradau yn ei gael ar fusnesau'r stryd fawr: “Mae gennym enghreifftiau yn y gorffennol o bethau'n cael eu cymryd, gwerth cannoedd o bunnoedd.
"Mae hynny’n ddigon o werth i wneud gwahaniaeth mawr i ni."

Mae Heddlu Gwent wedi ymateb i bryderon y busnesau lleol.
Dywed y Prif Uwch-arolygydd dros dro a Phennaeth Cymdogaethau Heddlu Gwent, Jason White: “‘Dyw lladrata, ac yn benodol lladrata o siopau, ddim yn drosedd heb ddioddefwyr a gall gael effaith fawr ar ein cymunedau, ar unigolion a busnesau.
“Mae'n hanfodol bod pob achos yn cael ei adrodd i ni fel y gallwn ni dargedu troseddwyr.”
“Mae ein timau plismona yn parhau i wneud gwaith gyda'n timau cymunedau awdurdod lleol, partneriaid yn ogystal â sefydliadau arall i sicrhau bod pob busnes a phreswylwyr yn teimlo'n ddiogel.”
Wrth siarad gydag ITV Cymru, dywedodd Mr Mais ei fod yntau erbyn hyn yn pryderu am ddiffyg ymateb yr heddlu i ladrata sy'n digwydd mewn siopau.
“Mae'r heddlu yn datgan bod dwyn o siop yn drosedd fechan neu petty crime. Ond pan ydych chi’n cydnabod gwerth yr hyn sy'n cael ei gymryd bob dydd, ledled Cymru, dydy’r peth ddim yn fychan mewn gwirionedd.
“Rwy'n credu bod yr heddlu allan o gyswllt gyda’r hyn sy'n digwydd… mae gwahanol elfennau i ladrad siop.”
Mae Mr Cullen yn siarad yn agored am y ffaith ei fod wedi bod yn dwyn o siopau yn y gorffennol i ariannu ei ddefnydd o gyffuriau: "Os na fyddwn i'n cymryd cyffuriau, ni fyddwn i erioed wedi bod gorfod dwyn o'r siopau."
Gan fod lladrata yn broblem gynyddol i swyddogion sy'n heddlua mewn dinasoedd a threfi ar draws Cymru mae gan bob llu swyddogion sy'n ceisio mynd i'r afael a'r problemau.
Mae'r Prif Arolygydd Tony Williams o Heddlu De Cymru hefyd yn cydnabod fod angen blaenoriaethu'r broblem: “Mae mynd i’r afael a materion fel lladrad o siopau, yn ogystal â phroblemau gwrthgymdeithasol eraill yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
“Mae timau ar draws de Cymru bob dydd yn darparu sicrwydd gweledol i'r cyhoedd a busnesau i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau.
“Rydym hefyd yn parhau i ddefnyddio ymyriadau fel gorchmynion ymddygiad troseddol i atal a rhwystro troseddwyr rhag aildroseddu.”