'Hynod o drawmatig': Disgyn ar stryd yn cael effaith enfawr ar fywyd menyw o Faesteg

Christine Thomas

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio, mae menyw yn ei 60au yn dweud ei bod hi "dal yn cael ei heffeithio" ar ôl syrthio wrth groesi'r ffordd.

Mae rhwng 230,000 a 460,000 o bobl dros 60 oed yn cwympo yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae un elusen yn rhybuddio bod hynny digwydd yn ddi-angen yn amlach na pheidio.

Mae pobl hŷn yn syrthio ymysg y tri brif rheswm dros alw am ambiwlans yn ôl elusen Care & Repair Cymru, ac wedi syrthio unwaith, maen nhw 50% yn fwy tebygol o syrthio eto, gyda risg cynyddol o ddioddef anaf.

Ym mis Mai'r llynedd fe wnaeth Christine Thomas o Faesteg ddisgyn dros ddarn o fetel oedd ar y stryd tra'r oedd hi allan yn siopa.

Torrodd ei phenelin, dioddefodd gleisiau ar ei harddyrnau a'i phen-glin a bu'n rhaid iddi dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

16 mis ers iddi ddisgyn, mae atgofion y diwrnod hwnnw'n parhau yn fyw yn ei chof.

"Dwi'n cofio'r diwrnod yn glir achos roedd e'n ben-blwydd fy ŵyr, 24 Mai," meddai wrth Newyddion S4C.

"Roeddwn i yn croesi'r ffordd yn unig ac roedd darn o fetel yn sticio allan o'r palmant ac yna wnes i ddisgyn.

"Roedd yn hynod drawmatig, mae e dal yn effeithio arnaf i, mwy nag unrhyw beth arall yn fy mywyd."

Image
Christine Thomas
Mae gan Christine cyfarpar i'w chynorthwyo wrth adael a dychwelyd i'w chartref.

'Ofni disgyn eto'

Cafodd cyfarpar eu gosod yn ei thŷ er mwyn ei helpu symud o gwmpas, gan gynnwys rheiliau ger ei drws blaen a chefn ac ar ei grisiau.

Er bod hynny wedi ei helpu i symud o gwmpas ei chartref, doedd hi ddim yn gyfforddus yn gadael y tŷ.

"Roedd cwympo wedi effeithio arna i yn fwy o ran hyder nag yn gorfforol," meddai.

"Pob tro roeddwn i'n cerdded roedd rhaid i mi stopio ar ôl ychydig gannoedd o lathenni.

"Roedd yr ofn o ddisgyn eto gyda fi'r holl amser, ac yn niweidiol.

"Roeddwn i'n amharod i adael y tŷ ac roedd wir rhaid i fi feddwl lle'r oeddwn i'n mynd."

Wrth i'r misoedd fynd heibio dechreuodd Christine deimlo'n fwy hyderus gan fentro allan unwaith eto.

Daw hynny wedi iddi ddod i arfer gyda'r cyfarpar cymorth yn ei thŷ a cherdded i lefydd gyda'i merch.

"Dwi eisiau i bobl wybod bod cymorth ar gael," dywedodd.

"Roedd y cyfarpar gafodd ei osod yn fy nghartref wedi bod o gymorth enfawr.

"Mae gen i fy hyder yn ôl nawr, a dwi llawer mwy cyfforddus yn gadael y tŷ."

Sut i leihau'r risg o syrthio

Mae elusen Care and Repair Cymru yn dweud bod modd cymryd mesurau er mwyn lleihau'r risg o syrthio.

Mae rhain yn cynnwys:

- Cadw'n heini: Mae ymarfer corff fel Tai Chi, cerdded pellterau bach, neu ymarfer corff ar gadair yn gallu helpu cydbwysedd a chryfder cyhyrau.

- Cadw eich cartref yn addas: Symud unrhyw beth allai eich achosi i syrthio fel gwifrau, rygiau llac ac eitemau o'r grisiau.

- Gwirio eich iechyd: Mynd am brofion clyw a golwg yn gyson, rheoli eich meddyginiaethau gyda'r meddyg teulu a chadw llygaid ar eich pwysau gwaed.

- Bwyta'n iach ac yfed digon o ddŵr: Mae bwyta'n iach ac yfed digon o ddŵr yn gallu cefnogi cydbwysedd, canolbwyntio a iechyd yn gyffredinol

- Gofalu am eich traed: Gwisgo esgidiau cyfforddus, addas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.