Rhybudd am law trwm i'r gogledd a'r gorllewin
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhannau o Gymru dros y penwythnos.
Mae’r rhybudd, sydd mewn grym rhwng 09.00 ar fore Sadwrn a 06.00 fore Sul yn effeithio ar siroedd yng ngogledd a gorllewin Cymru.
Fe allai hyd at 75mm-100mm ddisgyn mewn rhai mannau yn ôl y Swyddfa Dywydd, tra bod disgwyl hyrddiadau cryf o wynt a’r posibilrwydd o daranau yn hwyrach ddydd Sadwrn, cyn i'r amodau wella fore Sul.
Mae perchnogion tai mewn ardaloedd ble mae llifogydd yn risg wedi eu cynghori i baratoi am argyfwng posib.
Mae’r rhybudd hefyd yn effeithio ar rannau o’r Alban a gogledd Lloegr.
Dyma’r siroedd sydd yn ardal y rhybudd:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Gâr
- Sir y Fflint
- Ynys Môn
- Wrecsam