Cynllun i adeiladu'r model AI 'gorau erioed' ar gyfer y Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio ar y model deallusrwydd artiffisial (AI) "gorau erioed yn y Gymraeg" ar gyfer defnydd mewn gofal iechyd ac addysg.
Fel rhan o brosiect rhwng Coleg Prifysgol Llundain (UCL), Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor a’r cwmni AI, NVIDIA, mae model AI yn cael ei ddatblygu er mwyn gallu rhesymu yn y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill y DU.
“Y nod yw sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw, sy’n anadlu ac sy’n parhau i ddatblygu gyda’r oes,” meddai Gruffudd Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr.
“Mae deallusrwydd artiffisial yn dangos potensial aruthrol i helpu gyda chaffael y Gymraeg fel ail iaith yn ogystal â galluogi siaradwyr brodorol i wella eu sgiliau iaith.”
Yn ôl y datblygwyr, bydd galluogi rhesymu AI o ansawdd uchel yn y Gymraeg yn cefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gofal iechyd, addysg ac adnoddau cyfreithiol yn yr iaith.
Mae’r prosiect yn rhan o fodel iaith UK-LLM, sydd wedi ei ddatblygu gan BritLLM, yn dilyn buddsoddiad Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer: “Rwyf am i bob cwr o’r DU allu harneisio manteision deallusrwydd artiffisial.
“Drwy alluogi deallusrwydd artiffisial i resymu yn y Gymraeg, rydym yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus — o ofal iechyd i addysg — yn hygyrch i bawb, yn yr iaith maen nhw’n byw ynddi.
“Mae hon yn enghraifft bwerus o sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf, wedi’i hyfforddi ar uwch gyfrifiadur deallusrwydd artiffisial mwyaf datblygedig y DU ym Mryste, wasanaethu lles y cyhoedd, amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol a datgloi cyfleoedd ledled y wlad.”
Ieithoedd eraill
Nod y system AI Newydd yw gwella hygyrchedd adnoddau Cymraeg drwy alluogi defnyddwyr i gyfieithu cynnwys neu i fusnesau ddarparu gwasanaethau sgwrsfot dwyieithog.
Fe allai hyn fod o fudd i ddarparwyr gofal iechyd, addysgwyr, darlledwyr, manwerthwyr a pherchnogion bwytai, i sicrhau bod eu cynnwys ysgrifenedig yr un mor hawdd ar gael yn y Gymraeg ag y mae yn Saesneg.
Y tu hwnt i’r Gymraeg, mae tîm y DU-LLM yn anelu i ddatblygu modelau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer ieithoedd Celtaidd eraill fel Cernyweg, Gwyddeleg, Sgoteg a Gaeleg yr Alban.
Maent hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr rhyngwladol i adeiladu modelau ar gyfer ieithoedd o Affrica a De-ddwyrain Asia.
Dywedodd Pontus Stenetorp, dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial yn University College London: “Mae’r cydweithrediad hwn gydag NVIDIA a Phrifysgol Bangor wedi ein galluogi i greu data hyfforddi newydd a hyfforddi model newydd mewn amser record, gan gyflymu ein nod o adeiladu’r model iaith gorau erioed ar gyfer y Gymraeg.
“Ein nod yw cymryd y mewnwelediadau a gafwyd o’r model Cymraeg a’u cymhwyso i ieithoedd lleiafrifol eraill, yn y DU ac ar draws y byd.”