‘Ofnadwy o boenus’: Rhybudd am greaduriaid gwenwynig ar draethau Ynys Môn a Cheredigion

Chwysigen fôr

Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio am greaduriaid gwenwynig peryglus ar draethau Ynys Môn a Cheredigion.

Mae’r creaduriaid o’r rhywogaeth Chwysigen fôr (Portuguese Man O’ War yn Saesneg) wedi cael eu gweld ar draeth Porth Trecastell, Ynys Môn, ac ar draethau Bae Ceredigion.

“Mae Gwylwyr y Glannau yn rhybuddio y gall y creaduriaid hyn roi pigiad hynod o boenus, hyd yn oed pan fyddant wedi marw,” meddai Gwylwyr y Glannau Bangor.

“Peidiwch â’u cyffwrdd – mae hyn yn berthnasol i bobl a chŵn.”

Maen nhw wedi galw ar bobl i roi gwybod i Wylwyr y Glannau os ydyn nhw’n dod ar eu traws.

Er eu bod yn edrych fel sglefrod môr, nid yw’r Chwysigen fôr yn perthyn i’r rhywogaeth honno.

Nid yw’n un creadur unigol, ond yn hytrach nifer o anifeiliaid unigol sy’n ffurfio un endid a elwir yn seiffonoffor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.