Newyddion S4C

Galeri Caernarfon yn penodi Prif Weithredwr newydd

Nia Arfon

Mae Nia Arfon wedi'i phenodi yn Brif Weithredwr newydd ar Galeri Caernarfon.

Ers degawd mae hi wedi bod yn gweithio gyda Menter Môn lle bu'n arwain prosiectau iaith, pobl ifanc a phrosiectau adfywio strategol yng Ngwynedd a Môn.

Daw ei phenodiad yn dilyn ymadawiad y cyn-Brif Weithredwr, Steffan Thomas, ym mis Awst.

Cafodd ei atal o'i waith ar gyflog llawn ym mis Ebrill wedi iddo bledio'n euog i gyhuddiad o stelcian.

Bydd Nia Arfon yn cymryd yr awenau ar 3 Chwefror, 2025.
 
Meleri Davies fydd y Prif Weithredwr dros dro tan hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.