Newyddion S4C

Prif weithredwr Galeri Caernarfon yn gadael ei swydd

10/08/2024
steffan thomas galeri

Mae prif weithredwr Galeri yng Nghaernarfon wedi gadael ei swydd ar ôl ymchwiliad, dywedodd y canolfan celfyddydol ddydd Sadwrn.

Fe blediodd Steffan Thomas yn euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid, ym mis Ebrill.

Fe dderbyniodd orchymyn atal (restraining order), a 120 awr o wasanaeth cymunedol.

Bryd hynny, dywedodd Galeri Caernarfon ei fod “wedi ei atal o'i swydd ar gyflog llawn a heb ragfarn yn ystod cyfnod yr ymchwiliad”.

Maen nhw bellach wedi cadarnhau ei fod wedi gadael ei swydd.

Dywedodd Galeri mewn datganiad: "Mae cyflogaeth Steffan Thomas fel Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf wedi dod i ben, ar y 9fed o Awst 2024.

"Bydd y broses o benodi Prif Weithredwr newydd Galeri Caernarfon Cyf yn cychwyn yn fuan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.