Newyddion S4C

Dyn oedd yn cuddio rhag yr FBI yn Sir Conwy wedi ymddangos yn y llys

Daniel Andreas San Diego

Mae dyn aeth ar ffo o'r awdurdodau yn yr UDA am 20 mlynedd cyn iddo gael ei ddal yng ngogledd Cymru wedi ymddangos yn y llys.

Cafwyd hyd i Daniel Andreas San Diego, 46 oed, yn Maenan, Sir Conwy, lle'r oedd wedi prynu tŷ yno y llynedd.

Roedd ar restr 'most wanted' yr FBI cyn iddo gael ei ddal.

Mae wedi ei amau o adael dau fom yn ardal San Francisco yng Nghaliffornia yn 2003.

Ymddangosodd San Diego yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain trwy gyswllt fideo o Garchar HMP Belmarsh ddydd Mawrth, ar gyfer ei ail wrandawiad estraddodi.

Cafodd ei ddal gan swyddogion o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, gyda chefnogaeth Plismona Gwrthderfysgaeth a Heddlu Gogledd Cymru, mewn mewn ardal wledig yn Sir Conwy ar 25 Tachwedd.

Siaradodd San Diego i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni yn unig yn ystod y gwrandawiad byr. 

Roedd yn gwisgo tracsiwt llwyd.

Bydd yn ymddangos yn y llys nesaf ar 31 Ragfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.