'Cwbl hanfodol': Mesurau newydd i amddiffyn dioddefwyr stelcian
“Roeddwn i'n teimlo mewn perygl llwyr. Roeddwn i'n hollol fregus.”
Dyma eiriau Rhianon Bragg, dioddefwr stelcian o’r gogledd.
Mae Ms Bragg yn dweud bod y broses gyfreithiol wedi bod yn un anodd yn ei hachos hi, ac nid oedd mesurau digon da mewn lle i’w hamddiffyn ar y pryd.
Yn 2020 cafodd cyn-bartner Rhianon Bragg, Gareth Wyn Jones, ei garcharu ar ôl defnyddio gwn i'w dal hi'n wystl yn ei chartref yng Ngwynedd.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi mesurau newydd i amddiffyn dioddefwyr stelcian.
Mae Ms Bragg yn croesawu’r newidiadau. Dywedodd wrth ITV Cymru: “Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn gwneud y newidiadau hyn - maen nhw'n gwbl hanfodol."
Mesurau newydd
O dan y mesurau newydd, bydd gorchmynion amddiffyn rhag stelcian - sy'n gwahardd stelcwyr honedig rhag cysylltu â’u dioddefwyr neu fod o fewn pellter penodol i’w dioddefwyr - ar gael yn ehangach, meddai’r llywodraeth.
Bydd y dull newydd yn golygu y bydd llysoedd yn gallu gosod y gorchmynion hyn ar ôl euogfarn, hyd yn oed pan nad oedd un yn ei le cyn yr achos troseddol.
Bydd troseddwyr hefyd yn cael eu hatal rhag cysylltu â’u dioddefwyr o’r carchar, meddai’r Swyddfa Gartref.
Os yw person sydd wedi ei gyhuddo yn ddieuog, bydd y llysoedd yn dal i allu gweithredu gorchmynion amddiffyn os oes digon o dystiolaeth i ddangos eu bod yn dal i beri risg i rywun.
Croesawu'r cyhoeddiad
Er bod Rhianon yn falch i weld y datblygiadau hyn, mae ganddi bryder o hyd y bydd angen gwneud mwy i amddiffyn hawliau dioddefwyr, yn enwedig rheiny sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Mae’n cymryd mwy o amser i'r heddlu ddod atoch chi. Efallai na fydd signal y ffôn symudol yn ddigon da i allu gwneud yr alwad frys honno.”
Roedd hi’n byw mewn ardal wledig pan gafodd ei stelcio ac roedd prinder tystion wedi bod yn broblem yn ystod yr achos llys.
“Ei air e yn erbyn fy ngair i oedd hi, a hynny am rywbeth oedd wedi digwydd ers amser maith.
“Roeddwn i’n aros iddo gyflawni’i drosedd nesaf ac yn gobeithio y byddai digon o dystiolaeth i'w gael yn euog am hynny.
“Mae angen i'r llywodraeth sicrhau nad yw'r cyfrifoldeb yn syrthio ar y dioddefwr i orfod amddiffyn ei hun.”
Grymoedd
Mae'r newid yn rhan o gynlluniau'r llywodraeth i roi mwy o amddiffyniad i ddioddefwyr stelcian yng Nghymru a Lloegr - gyda'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper yn addo y bydd y llywodraeth yn defnyddio "pob arf sydd ar gael" i gymryd grym oddi ar y rhai sy'n cam-drin.
Mae tua un o bob pump o fenywod 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef achosion o stelcian o leiaf unwaith, yn ôl ffigurau swyddogol.
Mae newidiadau newydd eraill i'r drefn yn cynnwys:
Adolygiad o ddeddfwriaeth stelcian i weld a allai’r gyfraith gael ei newid i gefnogi’r heddlu ymhellach i adnabod stelcian ac arestio troseddwyr
Diffinio stelcian mewn canllawiau statudol a gosod fframwaith cyfreithiol i helpu gwasanaethau cymorth i gydweithio a sicrhau nad yw pobl yn cael eu methu pan fod gwybodaeth hanfodol yn cael ei golli
Bydd data newydd ar droseddau stelcian yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref
Bydd yr adran hefyd yn gosod safonau cenedlaethol ar raglenni cyflawnwyr stelcian i sicrhau cysondeb ar draws Cymru a Lloegr.
Mae Ms Bragg yn ffyddiog bod y mesurau newydd yn gam positif o fewn y system droseddol.
“Gyda'r profiad rwyf wedi ei fyw... mae gallu gweithio'n gadarnhaol gyda'r heddlu lleol yn wych ac mae wedi fy nghynnal yn ystod yr adegau anodd,” meddai Ms Bragg.
Llun: ITV Cymru