Peryg i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ‘chwalu’ yn sgîl toriadau
Mae un o brif gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg yng Nghymru wedi rhybuddio fod yna beryg i’r diwydiant "chwalu" yn sgîl toriadau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Richard Tunnicliffe o Wasg Rily bod peryg i’r diwydiant yng Nghymru golli arbenigedd awduron, awristiaid a golygyddion os nad oes tro ar fyd.
Daw ei sylwadau wedi i rai o gyhoeddwyr Cymru gwrdd ag un o bwyllgorau'r Senedd yr wythnos diwethaf i drafod yr argyfwng.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi cyhoeddwyr Cymru i "ymateb i’r heriau sy'n wynebu'r diwydiant".
"Mae’r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac yn rhoi’r diwydiant mewn peryg," meddai Richard Tunnicliffe wrth Newyddion S4C.
"Ac os ydi o’n chwalu, fe fydd yn llawer mwy costus i'w roi o'n ôl at ei gilydd eto.
"Hyn a hyn allwch chi dorri cyn eich bod chi’n bwrw'r asgwrn ac mae aelodau o’r corff yn dechrau dod i ffwrdd."
Dywedodd Mr Tunnicliffe fod y diwydiant cyhoeddi wedi ei daro gan "storm berffaith" dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae gwerthiant mewn siopau ar i lawr yn sylweddol oherwydd yr argyfwng costau byw," meddai.
"Ar yr un pryd mae ysgolion a llyfrgelloedd, ein cwsmeriaid mwyaf, wedi wynebu toriadau eu hunain.
"Maen nhw’n gorfod dewis buddsoddi mewn adeiladau sy’n syrthio yn ddarnau ac mae prynu llyfrau’n dod yn ail i hynny.
"Rydyn ni’n gweld pobl yn yr Eisteddfod sy’n dweud eu bod nhw’n caru ein llyfrau ni, ond bod yn llythrennol angen trwsio twll yn nho yr adeilad."
'Angen adfer llythrennedd'
Yn ôl Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch, mae'r toriadau a chwyddiant wedi cael effaith ar lythrennedd plant yng Nghymru.
"Mae 'na adroddiad pwysig wedi cael ei wneud gan gorff addysgol yn America ar ôl ymchwilio i lythrennedd mewn 30 o wahanol wledydd, ac maen nhw’n gweld bod dysgu llythrennedd efo llyfr a phensal mewn llaw yn 60% mwy effeithiol na gwneud o’n ddigidol," meddai.
"Felly 'da ni’n sbio ar ganlyniadau profion fatha PISA a gweld bod Iwerddon yr ail orau yn y byd a Chymru’n 37, gyda dirywiad anferth wedi digwydd mewn llythrennedd. Mae plant 10 oed efo gallu darllen saith oed, ac mae o’n waeth pan 'da ni'n sôn am lythrennedd Cymraeg.
"A gan nad oes ganddyn nhw sgiliau llythrennedd, dydyn nhw ddim yn gafael mewn llyfrau - ac mae hynna wedi taro gweisg."
Yn sgil hynny, mae Myrddin ap Dafydd yn galw am "ymgyrch genedlaethol" i adfer llythrennedd yng Nghymru.
"Mae angen hyrwyddo llyfrau, rhoi parch i lyfrau ac awduron a defnyddio llyfrau eto," meddai.
"Ac mae hyn yn ehangach na dim ond ysgolion, 'da ni’n sôn am y cartra, am rieni, ac mae 'na gymorth 'di bod gan fudiadau fel Merched y Wawr a Mudiad Meithrin. Mae angen ymgyrch genedlaethol i adfer llythrennedd yng Nghymru."
Fel arall, mae'n rhybuddio na fydd gweisg fel Carreg Gwalch yn bodoli mewn blynyddoedd i ddod.
"'Da ni 'di colli gwerth pedair swydd a hanner yng Ngwasg Carreg Gwalch, a dydi'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy," meddai.
"Naill ai fydd gweisg yn stopio cyhoeddi llyfrau o fewn 'chydig iawn iawn o amser, neu mae'n rhaid iddyn nhw gael eu hariannu’n deg."
Ychwanegodd: "Mae gofyn i ni drysori'r hyn sydd ganddo ni a gwneud yn siŵr ei fod yn parhau ar gyfer y genhedlaeth nesaf."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i gefnogi cyhoeddwyr Cymru, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, i ymateb i’r heriau sy'n wynebu'r diwydiant a darganfod y ffyrdd gorau i sicrhau dyfodol tymor hir cyhoeddi yng Nghymru.
"Ar ben eu grant blynyddol ar gyfer costau craidd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn rheolaidd i Gyngor Llyfrau Cymru i gefnogi eu gweithgareddau.
"Roedd hyn yn cynnwys cyllid i gyhoeddwyr o Gymru fynychu Ffeiriau Llyfrau Llundain a Frankfurt, er mwyn hyrwyddo'r llyfrau a'r awduron gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol."