Newyddion S4C

Darren Millar yn ffefryn clir i fod yr Arweinydd Ceidwadol newydd yn y Senedd

Darren Millar yn ffefryn clir i fod yr Arweinydd Ceidwadol newydd yn y Senedd

Mae'n ymddangos bron yn sicr mai Darren Millar fydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Bydd enwebiadau ar gyfer y swydd, yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies, yn cau am 17.00 prynhnawn dydd Iau. 

Ond mae'n ymddangos fod gan Mr Millar gefnogaeth y mwyafrif o'r 16 aelod Ceidwadol eisoes, a does neb arall wedi ei enwebu hyd yma. Os na fydd enwebiad arall, bydd yn cael ei ethol i'r swydd yn syth.

Dywedodd Samuel Kurtz AS, yr aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro ar 'X' ei fod yn cefnogi Mr Millar, gan ddweud: "Mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi cael llond bol wedi 25 mlynedd o fethiannau Llafur. 

"Bydd Darren yn helpu i'w hysbrydoli gyda'r posibiliadau o ddyfodol mwy disglair a mwy llewyrchus o dan y Ceidwadwyr Cymreig."

Mae Mr Millar, sy'n 48 mlwydd oed, yn cynrychioli Gorllewin Clwyd yn y Senedd ers 2007.

Yn gynharach yr wythnos yma, ymddiswyddodd Andrew RT Davies fel arweinydd, er iddo ennill pleidlais o hyder ymhlith yr aelodau o drwch blewyn - 9 pleidlais i 7. Roedd yn dilyn misoedd o anghytuno mewnol am sawl agwedd o'i arweiniad.

Dywedodd y gohebydd gwleidyddol Daniel Davies wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'n edrych yn amhosib nawr i unrhyw un stopio Darren Millar rhag cael ei goroni'n arweinydd."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.