Newyddion S4C

‘Mynd amdani’: Y gantores, Buddug, yn annog pobl ifanc i greu cerddoriaeth

Buddug

 hithau’n rhyddhau ei halbwm gyntaf, flwyddyn ar ôl ei gig gyntaf, mae’r gantores Buddug yn annog pobl ifanc sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth i “fynd amdani”.

Bron i flwyddyn ar ôl ei gig gyntaf gyda’i band, mae Buddug wedi rhyddhau ei halbwm gyntaf, gyda 10 o ganeuon arni.

‘Rhwng Gwyll a Gwawr’ ydi enw’r albwm, sy’n gasgliad o ddeg o ganeuon sydd wedi eu hysgrifennu dros y flwyddyn ddiwethaf.

‘Amdani’

Mae’n flwyddyn ers i’r band ddod at ei gilydd, pan gafodd Buddug gynnig i chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau a Tafwyl.

“’Da ni’n fand reit ifanc” meddai Buddug, sy’n 18 oed, wrth Newyddion S4C.

“Dwi bob tro wedi bod isho band i berfformio efo achos mae o’n neud y sŵn swnio’n well na trac, a mae ‘na rwbath braf mewn cael pobl efo chdi ar y llwyfan hefyd.”

Dywedodd fod angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a rhyddhau cerddoriaeth i “fynd amdani”.

“Os ti rili isho rwbath, ac yn fodlon rhoi’r amser i mewn iddo fo, dwi’n meddwl fod o’n beth da i’w wneud” meddai.

Cyn iddi ryddhau ei cherddoriaeth, dywedodd ei bod yn gyndyn o wneud wrth iddi feddwl beth fyddai ymateb y bobl o’i chwmpas.

“Oni’n meddwl ‘gosh be mae pobl yn mynd i’w feddwl am y ffaith bo fi’n rhyddhau cerddoriaeth?’

“Ond dwi’n meddwl os wyt ti rili isho ei wneud o, ti jyst angen blocio hynna allan a mynd efo be sy’n teimlo’n iawn i chdi."

‘Rhwng Gwyll a Gwawr’

Buddug ei hun sy’n ysgrifennu’r caneuon ar gyfer y band, a hynny pan fydd hi adref fel arfer.

Mae cymysgedd o wahanol genres o ganeuon ar yr albwm - “dwi’n licio sŵn mawr” meddai Buddug.

Wrth ddisgrifio’i cherddoriaeth, dywedodd: “pop ydi o mewn ffordd, ond dio ddim yn ofnadwy o poppy… bach o indi-pop mae’n siŵr”.

Dywedodd fod y trac gyntaf yr albwm, ‘Rhywun Arall’, a’r olaf, ‘Digon’, yn benodol wedi bod yn heriol i’w hysgrifennu.

“Eshi mewn yn gwybod mai y caneuon yna fydd y cyntaf a’r olaf ar yr albwm” meddai.

“Roedd y gân gyntaf yn anodd gan mai honna oedd yn agor yr albym ag ni’n meddwl sut fath o mood oedd angen iddi fod”.

Mae hi hefyd wedi arbrofi gyda’r dechneg o ‘loopio’r’ gân olaf a’r gân gyntaf.

“Hiraethu ydi’r gân fwyaf emosiynol fyswn i’n ei ddeud” meddai, “dyna oedd y gân olaf i mi’i ‘sgwennu a recordio felly mae hi’n dal yn reit ffresh”.

Rhai o’r artistiaid sydd wedi cael dylanwad arni ydi Fleetwood Mac, Jeff Buckley, a’r Beatles, ac mae hi wedi mwynhau gwrando ar gerddoriaeth “mwy chilled” yn ddiweddar fel Lizzy McAlpine.

Dywedodd hefyd ei bod yn dueddol o wrando ar fwy o ganeuon Saesneg, ond bod rhyddhau caneuon Cymraeg yn sicr wedi tynnu ei sylw at fwy o fandiau Cymraeg dros y misoedd diwethaf.

‘Anhygoel’

Yn ôl Buddug, mae’r ymateb i’w halbwm gyntaf a’i senglau dros y misoedd diwethaf wedi bod yn “anhygoel”.

“Neshi’m disgwyl yr ymateb yna o gwbl” meddai.

“Doedd ‘na rai pobl ddim yn cofio bo fi’n canu, a mae ‘na lot o bobl wedi dangos diddordeb a ‘da ni wedi joio’r gefnogaeth yn y gigs."

Mae Buddug ymhlith yr artistiaid sy’n chwarae ym Mharc Bute eleni, yn Tafwyl, am yr ail dro.

“’Da ni’n edrych ymlaen yn fawr i gael chwarae yno eto eleni” meddai.

Llun: Fideo Lŵp, Buddug - Disgyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.