Newyddion S4C

Cadair Eisteddfod gan ffoadur Rhyfel Byd Cyntaf mewn arddangosfa newydd

Cadair Eisteddfod 1923

Bydd Cadair Eisteddfod a chafodd ei chreu gan ffoadur o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhan o arddangosfa newydd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru.

Wedi'i churadu gan ymchwilwyr o’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd yr arddangosfa yn cyfuno gweithiau celf ac arteffactau gan bobl a ddaeth i Gymru er mwyn ffoi rhag rhyfel a thrais yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae'n adrodd straeon ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o bob cwr o Brydain a geisiodd canfod noddfa yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa hefyd yn tynnu sylw at brofiadau rhai sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro yn yr Wcráin a Syria.

Un o'r gweithiau sy'n cael eu harddangos fydd cadair Eisteddfod 1923, a gafodd ei cherfio gan Emile de Vynk, ffoadur o Wlad Belg a gafodd gynnig lloches yng Nghricieth ym 1914, ar ôl ffoi rhag rhyfela’r Rhyfel Byd Cyntaf. 

Mae paentiadau gan Fred Uhlman, artist Iddewig a gafodd ei erlid gan y Natsïaid, hefyd wedi'u cynnwys, ochr yn ochr â ffotograffau atgofus o blant Gwlad y Basg a symudwyd ym 1937 a faciwîs o Loegr o 1940 ymlaen.

"Tynnu sylw at hanes hir y dadleoli a achosir gan ryfel," yw nod yr adrddangosfa, yn ôl Andrea Hammel, Athro Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl.

Image
Arddangosfa
Ffoadur ifanc Basgaidd, 1937. (Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg)

“Er bod coffáu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop y mis diwethaf yn canolbwyntio'n bennaf ar ymladdwyr a chymunedau lleol, rydym eisiau dangos profiad y rhai a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi,” meddai.

“Erbyn 1945 roedd 60 miliwn o bobl wedi'u dadleoli yn Ewrop yn unig, ac roedd Cymru yn darparu noddfa i lawer."

'Gwersi i'w dysgu'

Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau cyfoes gan artistiaid proffesiynol a chymunedol o Syria a'r Wcráin, sydd wedi ailymgartrefu yng Nghymru dros y degawd diwethaf.

Ychwanegodd y cyd-guradur, Dr Morris Brodie: "Hoffem wahodd ymwelwyr i fyfyrio ar hanes y dadleoli i Gymru, ac ar y gwersi i'w dysgu ar gyfer heddiw. 

“Fe wnaethom gasglu cyfraniadau gan ddisgynyddion Carcharorion Rhyfel o’r Eidal, yn ogystal â'r gymuned Bwylaidd a De Asiaidd. 

“Rydym hefyd yn dangos gweithiau celf a grëwyd gan aelodau o'n cymuned a ddadleolwyd yn llawer mwy diweddar."

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Oriel 2, Canolfan y Celfyddydau , o 14 Mehefin tan 27 Hydref 2025, cyn symud i Oriel y Senedd ym Mae Caerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.