Newyddion S4C

Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn agor chwarter canrif ers i waith ddechrau

Ken Skates

Mae Ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd wedi ei hagor yn swyddogol ddydd Iau, a hynny 23 mlynedd ers i’r gwaith o’i hadeiladu ddechrau.

Roedd y prosiect yn cael ei gweld fel un o brosiectau ffyrdd mwyaf uchelgeisiol y DU, ac mae’r ffordd newydd yn cysylltu Abertawe gyda Sir Fynwy a Sir Henffordd dros y ffîn.

Mae llywodraethau Cymru a’r DU wedi cydnabod fod y gwaith o ddatblygu’r ffordd wedi bod yn un o’r cynlluniau mwyaf heriol a thechnegol yn y DU, gyda theithwyr yn yr ardal yn aml yn wynebu tagfeydd difrifol dros y 23 mlynedd diwethaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd cwblhau'r rhaglen uwchraddio Ffordd Blaenau'r Cymoedd, a oedd werth £2bn, yn “darparu gwell trafnidiaeth ac atgyweirio ein ffyrdd".

Y gobaith yw y bydd y ffordd yn “sicrhau ffyniant i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru”.

Daeth y gwaith i ben ddiwedd fis diwethaf, wrth i adeiladwyr y ffordd orffen y cymal olaf, gwerth £1.4bn, sydd yn cysylltu Dowlais a Hirwaun.

'Cymhleth'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, fod y prosiect wedi bod yn un “cymhleth a llawn heriau”.

Ond, mae’n credu ei fod wedi “darparu manteision ar gymaint o lefelau”, o “ddarparu swyddi lleol i wella hygyrchedd, cefnogi addysg a sgiliau, yn ogystal â darparu manteision amgylcheddol".

“Rwy'n hyderus, unwaith y bydd pobl yn sylweddoli manteision y buddsoddiad hwn, y bydd atgofion o unrhyw darfu maen nhw wedi'i brofi yn dechrau pylu," meddai.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod y “prosiect cyfalaf mawr hwn wedi creu manteision gwirioneddol i bobl leol".

Yn ôl Drakeford, mae’r prosiect wedi arwain at £400m ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol ac wedi creu 2,200 o swyddi newydd.

"Y tu hwnt i wella trafnidiaeth, mae'r prosiect hwn wedi creu gwaddol yn yr ardal, trwy hyfforddi dros 200 o brentisiaid a darparu gweithgareddau STEM i ysgolion lleol.” meddai.

“Mae hyn yn dangos sut mae ein buddsoddiadau yn gwella mwy na seilwaith yn unig; maen nhw'n cefnogi ein cymunedau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.