Dartiau’n fyw ar S4C am y tro cyntaf
Mae S4C wedi cyhoeddi fod y sianel yn bwriadu darlledu pencampwriaeth Cwpan Dartiau’r Chwe Gwlad yn fyw o Ferthyr Tudful ym mis Mehefin.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r gamp gael ei ddarlledu’n fyw ar y sianel.
Mae’r bencampwriaeth yn cynnwys timau o Gymru, yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Iseldiroedd, a Gweriniaeth Iwerddon, gyda chystadlaethau unigol a chystadlaethau tîm i ddynion a menywod.
Dros dri diwrnod, mi fydd y darllediadau byw yn cael eu ffrydio ar S4C Clic a sianel YouTube S4C Chwaraeon, gyda’r rownd derfynol hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.
Fe fydd y darllediadau ar Fehefin 20, 21 a 22.
Fe fydd sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael ar y darllediad ac fe fydd modd gwylio’r cyfan yn fyd eang ar safle YouTube y sianel.
Fe fydd y darllediad yn cael ei gyflwyno gan Sioned Dafydd, gyda sylwebaeth Gymraeg gan Gareth Roberts a sylwebaeth Saesneg ar gael gan Dan McCarthy.
Dywedodd Dylan Williams, o wefan Darts Cymru: “Mae'n gyffrous i weld dartiau cystadleuol yn dod i S4C.
"Gyda'r holl gyffro a'r angerdd o amgylch y gamp ar hyn o bryd, nid oes amser gwell wedi bod i'r sianel i ddangos ei chefnogaeth i’r gamp.
“Fel cefnogwr dartiau Cymru, mae gallu gwylio dartiau lefel uchel yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddwn i'n ei weld.”
Llun: S4C