Dyn o Brydain yw'r unig berson i oroesi damwain awyren Air India
Dyn o Brydain yw'r unig berson i oroesi damwain awyren Air India
Dyn o Brydain oedd yr unig berson i oroesi damwain awyren Air India.
Roedd yr awyren oedd yn teithio o faes awyr Ahmedabad i faes awyr Gatwick yn Llundain yn cario 53 o deithwyr o Brydain cyn iddo blymio i'r ddaear yn India.
Nos Lun roedd Air India wedi cadarnhau mai dyn o Brydain oedd yr unig berson oedd wedi goroesi allan o'r 242 person ar yr awyren.
Dywedodd comisiynydd yr heddlu India, GS Malik wrth asiantaeth newyddion ANI mai Vishwash Kumar Ramesh oedd yn eistedd yn sedd 11A oedd yr unig berson i oroesi.
Ychwanegodd ei fod "yn yr ysbyty ac yn derbyn triniaeth."
Mae'r cyfryngau yn India yn dweud eu bod nhw wedi siarad gydag ef yn yr ysbyty a'i fod wedi dangos ei docyn oedd yn cynnwys ei enw a rhif sedd 11A.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: "Rwy'n hynod o drist o glywed am y ddamwain awyr drasig yn India y bore yma.
"Mae fy meddyliau gyda'r teithwyr, eu teuluoedd a'r aelodau criw sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad dinistriol hwn."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1933184433361678789
Mae fideos sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ffrwydrad enfawr wrth i'r awyren syrthio o'r awyr.
Y gred yw bod y ddamwain wedi digwydd am 13:38 amser lleol (09:08 amser y DU).
Dyma'r ddamwain gyntaf yn ymwneud ag awyren Boeing 787 yn ôl gwybodaeth gan y Rhwydwaith Diogelwch Hedfan.
Dywedodd llefarydd ar ran Air India: "Roedd hediad AI171, o Ahmedabad i Gatwick, yn rhan o ddamwain heddiw, 12 Mehefin 2025.
"Ar hyn o bryd, rydym yn cadarnhau’r manylion a byddwn yn rhannu diweddariadau pellach cyn gynted â phosibl."
Llun: Reuters