Ffioedd dysgu yn codi £300 y flwyddyn ym mhrifysgolion Cymru
Fe fydd ffioedd dysgu mewn prifysgolion yng Nghymru yn cynyddu o £300 y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cap ar ffioedd yn codi o £9,250 y flwyddyn i £9,535 yn 2025/26.
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd a gyhoeddwyd fis diwethaf gan yr Ysgrifennydd Addysg Bridget Phillipson ym mhrifysgolion Lloegr.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Roedd y penderfyniad i godi ffioedd dysgu yn anodd ond yn angenrheidiol, er mwyn sicrhau bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn parhau i gystadlu â rhannau eraill o'r DU."
Fe fydd codi’r ffioedd yn “darparu cyllid ychwanegol i Brifysgolion Cymru, ac i helpu i sicrhau eu bod yn parhau'n hyfyw ac yn gystadleuol,” yn ôl y Llywodraeth.
Ychwanegodd Ms Howells: “Rwyf am fod yn glir na ddylai'r cynnydd bach hwn mewn ffioedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny.
“Ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw. Ni fydd chwaith yn cynyddu eu had-daliadau misol fel graddedigion."
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn er mwyn cefnogi’r sector addysg uwch.
Mae hyn yn cynnwys £10m i gefnogi addysgu a dysgu, gwaith ymchwil, ehangu mynediad a rheoli newid mewn prifysgolion, a bydd £10 miliwn yn cael ei roi i golegau addysg bellach i dalu costau'r galw cynyddol a chymorth i ddysgwyr.
Yn ogystal, fe fydd cynnydd o 1.6% yn y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr israddedig rhan-amser ac amser llawn cymwys o Gymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.