Ysbyty Glangwili yn cau wardiau i gleifion newydd oherwydd achosion o ffliw
Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi cau nifer o wardiau oherwydd achosion o ffliw yn yr ysbyty dros yr wythnos diwethaf.
Daw hyn wrth i Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru rybuddio y gallai’r feirws gynyddu yng Nghymru dros y pythefnos nesaf.
Ar hyn o bryd, mae glanhau dwfn ar y gweill yn Ysbyty Glangwili, gyda mesurau anghyffredin fel newid y llenni bellach yn hanfodol i sicrhau bod gwelyau cleifion yn ddiogel, ac mae masgiau wyneb hefyd yn cael eu gwisgo.
Mae pedair ward wedi’u heffeithio gan yr achosion o ffliw a COVID dros yr wythnos ddiwethaf, sy’n golygu bod llai o welyau ar gael i gleifion newydd.
Mae’r sefyllfa’n pryderu Dr Robin Ghosal, Cyfarwyddwr Ysbyty.
“Mae ‘na bwysau sylweddol ar yr Adran Frys, hyd yn oed mwy nag arfer. Y pryder yw, os yw’r heintiau yma’n parhau i ledaenu drwy’r wardiau, yna fyddwn ni ddim yn bell iawn o ddigwyddiad argfyngus, neu critical incident.”
“Er ein bod yn ceisio glanhau'r ardal bob amser, mae glanhau dwfn yn broses drwyadl a gwahanol iawn, sy'n cymryd llawer o amser… felly mae'n llawer o bwysau ar y staff glanhau i sicrhau ein bod yn lleihau'r risg.
“Ond nid yw'r risg o gael yr heintiau hyn byth yn cael ei ddileu'n llwyr,” meddai Dr Ghosal.
'Mae yna ffenestr fer i chi gael eich diogelu'
Mae’r achosion newydd o ffliw yn cyd-fynd a’r brig traddodiadol yn ystod y gaeaf, gyda Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Keith Reid, yn annog unigolion mewn risg i dderbyn brechiad.
“Os oes gennych y cyflyrau iechyd sylfaenol hynny, nid yw eich corff mewn sefyllfa dda i ymladd haint y ffliw," meddai.
“Mae tymor brig y ffliw yn golygu bod dyblu yng nghyfradd y ffliw bob wythnos fwy neu lai, os ydym yn dilyn patrwm traddodiadol.
“Byddwn yn eich annog i beidio ag oedi os ydych chi'n ystyried cael y brechiad ffliw, nawr yw'r amser i'w gael.
“Mae brig y ffliw yn dod, ac mae ffenestr fer i chi gael eich diogelu.” meddai Dr Reid.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi cyhoeddi rhestr o’r grwpiau sydd yn gallu derbyn brechiad ffliw yn rhad ac am ddim:
Pobl feichiog
Pobl dros 65 oed
Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor
Gofalwyr a phreswylwyr cartrefi gofal
Gweithwyr gofal iechyd
Plant rhwng 2 ac 16 oed
Pobl sy'n ddigartref
Gweithwyr dofednod
Er hyn, mae'r data diweddaraf yn dangos bod llai na 30% o oedolion iau sy'n gymwys wedi derbyn brechiad ffliw. Mae 62% o bobl 65 oed a throsodd wedi cael eu brechu.