Newyddion S4C

Cyhuddo dyn yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaernarfon

Cae Llwybr

Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn 32 oed o Gaernarfon yn dilyn tân mewn tŷ yn y dref.

Mae Kevin Evans o Gae Bold yng Nghaernarfon wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw am 14.03 brynhawn dydd Llun yn dilyn galwad gan Wasanaeth Tân y Gogledd.

Roedd y tân mewn tŷ yn ardal Cae Llwybr yn y dref.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth a all helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu dros y we neu ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q185204.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.