Cleifion yng Nghymru yn aros bron i dair blynedd am ddiagnosis dementia
Mae ymchwiliad ITV Cymru wedi darganfod bod rhai pobl sy’n profi symptomau dementia wedi gorfod aros hyd at dair blynedd am ddiagnosis ffurfiol, er mai deuddeg wythnos ydy’r targed.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddatgelu bod o leiaf un claf wedi aros am 153 wythnos, neu ychydig llai na thair blynedd. Amser aros cyfartalog y bwrdd oedd 16 wythnos.
Yn ôl y bwrdd iechyd, cafodd y claf penodol yna atgyfeiriad i’r gwasanaeth yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd ymyriadau yn narpariaeth y gwasanaeth.
Uchelgais Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru ydy bod pob claf yn cael ei asesu ac yn derbyn diagnosis o fewn 12 wythnos o gael atgyfeiriad.
Dywedodd y Gymdeithas Alzheimer’s, yr elusen ddementia genedlaethol, bod y data yma yn “ddarlun llwm iawn o’r llwybr diagnosis i bobl yng Nghymru.”
“Mae’n hanfodol fod cleifion yn derbyn diagnosis amserol o ddementia. Mae’n bwysig i’r claf ei hunan… ond hefyd mae’n bwysig i’r system," meddai llefarydd.
"Mae diagnosis yn rhyddhau pwysau oddi ar y system, sy’n golygu y bydd cleifion yn llai tebygol o ymweld â’r adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E), sy’n golygu fod cleifion yn fwy tebygol o gymryd rheolaeth o’u cyflwr ac aros yn eu cartrefi am gyfnod hirach.”
Fe wnaeth dau fwrdd iechyd arall ddatgelu bod cleifion penodol wedi gorfod aros tua dwy flynedd neu fwy.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fe wnaeth o leiaf un claf aros 127 wythnos - bron i ddwy flynedd a hanner.
Fe wnaeth claf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan aros am 103 wythnos, ychydig yn llai na dwy flynedd.
Yn yr ardal honno, roedd yr amser aros cyfartalog o bron i 16 wythnos yn agosach i’r targed, ond fe wnaeth y bwrdd iechyd ddweud bod gan bob claf llwybr gwahanol at ddiagnosis, felly byddai hyn yn gamarweiniol ar ben ei hun.
Yr amser aros cyfartalog yn ardal Cwm Taf Morgannwg yw 21 wythnos, neu bron i bum mis.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys oedd â’r amser aros cyfartalog hiraf, lle gall y mwyafrif o gleifion aros hyd at 25 wythnos am ddiagnosis ffurfiol yn dilyn atgyfeiriad - mwy na dwbl y targed.
Yn ôl y bwrdd iechyd, “O ystyried pa mor wledig a gwasgaredig ydy Powys, mae ein trigolion yn defnyddio eu byrddau iechyd cyfagos yng Nghymru yn ogystal ag Ymddiriedolaethau y GIG yn Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal arbenigol. Yn lleol, rydym yn darparu’r gwasanaethau sy’n glinigol briodol i’w darparu mewn ardal gymuedol wledig, tra bod gwasanaethau mwy arbenigol yn cael eu darparu gan wasanaethau sydd wedi’u comisynu.”
Mae Linda Pearson yn gofalu am ei gŵr, Michael, sydd wedi byw gyda chlefyd Alzhiemer’s - un o’r mathau mwyaf cyffredin o ddementia - ers blwyddyn.
Maen nhw wedi byw yn Llandrindod ym Mhowys ers 7 mlynedd. Mae Linda’n dweud bod Michael wedi gorfod aros rhwng 12 a 14 mis am ddiagnosis ar ôl mynd i weld y meddyg teulu am y tro cyntaf pan wnaeth e ddechrau teimlo nad oedd ei ymennydd yn gweithio’n iawn.
“Doeddwn i ddim yn teimlo’n iawn,” meddai Michael. “Roeddwn i’n aros am amser hir i dderbyn diagnosis er mwyn datrys beth oedd yn digwydd yn fy ymennydd.”
Fe wnaeth Linda esbonio, “Fe wnes i orfodi e i fynd at y doctor achos mi oedd e’n mynd yn eithaf ypset yn dweud, ‘Mae rhywbeth yn bod gyda fy ymennydd,’ a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd e’n gallu neu ddim yn gallu gwneud, achos doedd e ddim yn gallu dweud ei hun.”
“Does dim empathi wedi bod,” meddai Michael.
“Chi’n derbyn eich diagnosis, a dyna ni,” meddai Linda.
“Bysen nhw ddim yn trin rhywun sydd â chanser fel hyn.”
Mae Linda a Michael wedi derbyn cefnogaeth wrth y Gymdeithas Alzheimer ac yn mynychu grŵp penodol ar gyfer dementia o’r enw Meeting Centre, sy’n cael ei redeg gan yr elusen Dementia Matters ym Mhowys. Mae ganddyn nhw bedwar grŵp yn gweithredu dros y sir.
“Mae’n ffordd gymunedol o ddarparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth, nid yn unig i’r person sy’n byw gyda dementia - sydd wedi derbyn diagnosis neu beidio - ond hefyd i aelodau’r teulu a’r gofalwyr,” meddai Deborah Gerrard, Prif Swyddog yr elusen.
“Mae cyrraedd y man o fynd at eich meddyg teulu i drafod problemau gwybyddol (cognitive) posib yn anodd iawn i’r mwyafrif o unigolion, felly mae hynny’n gam enfawr iddyn nhw gymryd. Mae gorfod aros sawl mis - blynyddoedd, mewn rhai achosion - i dderbyn diagnosis yn ychwanegu at y gorbryder hwnnw.
“Mae’n hanfodol bod yr amser mae’n cymryd i dderbyn diagnosis yn cael ei gyflymu.”
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydden nhw’n dechrau gweithio ar Gynllun Gweithredu Dementia newydd gydol flwyddyn nesaf. Cafodd y cynllun gweithredu diwethaf ei redeg o 2018-2022, ond does dim adroddiad terfynol yn asesu effaith y cynllun ar wasanaethau dementia yng Nghymru wedi’i gyhoeddi eto.
“Mae hyn wedi chwalu ein hymddeoliad ni achos dydyn ni ddim yn gallu mynd ar ein gwyliau gan nad yw Michael yn ymdopi’n dda mewn torfeydd," meddai Linda.
“Mae’n fy lladd i, yn ogystal â Michael, i’w weld e fel hyn.”