Newyddion S4C

Treth twristiaeth Cymru 'ddim am effeithio ar nifer yr ymwelwyr'

Traeth - torheulo

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi gwrthod honiadau  bydd cynllun i sefydlu treth twristiaeth yn cael effaith ar nifer y bobl fydd yn ymweld â'r wlad. 

Dywedodd Jo Stevens bod nifer o ddinasoedd yn y DU a dramor wedi sefydlu cynllun o'r fath, heb weld unrhyw leihâd yn nifer y twristiaid.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried rhoi'r hawl i gynghorau godi tâ l o £1.25 y noson ar ymwelwyr o 2027 ymlaen. Byddai'n effeithio pobl ar bobl yn aros mewn gwestai, gwely a brecwast, a llety hunan-arlwyo.

Mae Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) yn honni y gallai gael effaith ar nifer y bobl fydd eisiau dod i Gymru. Mae nhw wedi galw ar eu haelodau i gau eu drysau ddydd Mawrth mewn protest.

Mae un adroddiad wedi awgrymu y gallai rhwng 200 a 700 o swyddi gael eu colli yn sgîl cyflwyno'r dreth.

Dywedodd Mims Davies,  llefarydd Cymreig y Ceidwadwyr: "Bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o swyddi yn y fantol, gyda stafelloedd gwag mewn gwestai, a theuluoeddo Gymru yn mynd dros y ffin i fynd ar dipriau neu ar wyliau."

Ond dywedodd Jo Stevens:"Mae dros 40 o wledydd ac ardaloedd o gwmpas y byd wedi cyflwyno rhyw fath o dreth ymwelwyr, gan gynnwys Groeg, Amsterdam, Barcelona, a California, a mae llawer ohonan ni wedi talu'r dreth heb hyd yn oed sylweddoli.

"Bydd yr arian yn helpu i gynnal diwydiant twristiaeth tymor hir hyfyw yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda busnesau a thwristiaeth i gael hwn yn iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.