'Penderfyniadau anodd' i gynghorau Cymru er gwaetha cynnydd yn y cyllid
Bydd awdurdodau lleol Cymru yn wynebu "penderfyniadau anodd" yn y flwyddyn i ddod, er gwaetha cynnydd o 4.3% ar gyfartaledd yn eu cyllidebau, meddai'r gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol y byddai'n "cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer ar ol 14 mlynedd hir o gyni."
Dywedodd fod y llywodraeth wedi cynyddu'r setliad cyffredinol ar gyfer 2025/6 o fwy na £1 biliwn. Bydd awdurdodau lleol yn derbyn cyfanswm o £6.1 biliwn i'w wario ar wasanaethau allweddol.
"Rydym yn gwybod y bydd ein cynghorau yn dal i wynebu penderfyniadau anodd yn lleol hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn," meddai Ms Bryant.
"Fodd bynnag, ni fydd yr un awdurdod lleol yn gweld cynnydd o lai na 2.8% y flwyddyn nesaf."
Yr ardaloedd dinesig fydd yn gwneud orau o'r cyhoeddiad, gyda Chasnewydd yn gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyllideb (5.6%), yna Caerdydd (5.3%) a Merthyr (5.1%).
Bydd y cynnydd lleiaf yn sir Fynwy (2.8%), Powys a Gwynedd (3.2%), gydag Ynys Môn, Ceredigion a Phenfro i gyd yn cynyddu 3.6%.
Yn ogystal bydd cyllid cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol yn cynyddu i £200 miliwn, a bydd y Grant Gwres Carbon Isel yn cynyddu i £30 miliwn i gefnogi awdurdodau gyda datgarboneiddio