Keir Starmer yn 'cefnogi ffermwyr yn gadarn' medd Downing Street
Keir Starmer yn 'cefnogi ffermwyr yn gadarn' medd Downing Street
Mae cefnogaeth Syr Keir Starmer i ffermwyr yn gadarn, medd Downing Street, wrth i ganol Llundain baratoi ar gyfer protest arall gan amaethwyr ddydd Mercher.
Fe deithiodd cannoedd o ffermwyr i San Steffan mewn tractorau ddydd Mercher wrth i Syr Keir Starmer gynnal sesiwn holi'r Prif Weinidog.
Mae'r ffermwyr yn anfodlon â'r newidiadau i'r dreth wrth etifeddu fferm.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Bydd yn rhaid talu'r dreth yma dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm yn uwch na £1m, er y gallai'r ffigwr fod yn £2m mewn achosion lle mae cwpwl yn gadael eu fferm i blant neu blentyn.
Mae'r brotest o dan yr enw “RIP British Farming” wedi ei threfnu gan Kent Fairness for Farmers a Save British Farming.
Pan ofynnwyd i lefarydd ar ran Keir Starmer a oedd gan y Prif Weinidog bryderon y gallai protest y ffermwyr ddwysáu ac y gallai hynny amharu ar gyflenwad y gadwyn fwyd, dywedodd: “Ry'n ni wedi bod yn glir iawn, nad ydym yn mynd i newid ein polisi
“Roedd hi'n angenrheidiol i wneud penderfyniadau anodd yn y Gyllideb a'r adolygiad ar wariant, ac rydym yn glynu gyda'r penderfyniadau hynny.
“Ond mae ein cefnogaeth i ffermwyr yn gadarn, ac mae ein neges i i ffermwyr yn glir. Dyna pam yr ydym wedi darparu £5 biliwn o bunnau i'r gyllideb ffermio dros gyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys mwy o arian nag erioed o'r blaen ar gyfer cynhyrchu bwyd yn gynaladwy.”
Mae'r newidiadau i'r dreth etifeddu wedi cynddeiriogi ffermwyr. Ymgasglodd 13,000 o ffermwyr yn Llundain i brotestio fis diwethaf, gyda nifer o Gymry yn eu plith.
Ac mae ffermwyr o Gymru hefyd wedi bod yn cynnal protestiadau ym mhorthladdoedd Caergybi, Ynys Môn ac Abergwaun, Sir Benfro.
Fe wnaeth nifer yrru eu tractorau trwy ganol Caerdydd ddydd Mercher.