Newyddion S4C

Y DJ 10 oed o Ddyffryn Ogwen sy'n gobeithio perfformio yn Glastonbury

Efan Electro

Yn 10 oed, mae DJ Efan Electro yn paratoi at gig fwyaf ei yrfa wrth iddo agor set i’r cerddor proffesiynol Judge Jules nos Wener ym Methesda.

Yn perfformio ers 2 flynedd mae Efan yn dweud mai ei freuddwyd fyddai perfformio mewn gigiau mwya’r byd fel Glastonbury rhyw ddiwrnod.

Wedi dechrau DJ’io yn 8 oed yn ei gartref mae o rŵan yn dod i sylw cefnogwyr cerddoriaeth o’r fath ac yn dweud bod artistiaid fel Marshmellow a DJ’s o’r 90’au wedi ei ysbrydoli.

O’r neuadd ysgol i Neuadd Ogwen, er yn ‘nerfus’ ma’n dweud ei fod hefyd yn edrych ymlaen at y profiad o agor y set i Judge Jules.

“Dolig pan oeddwn i newydd droi yn 8, oni mewn i Marshmellow ac oni’n meddwl – mae hwnna’n edrych fel rhywbeth dwi eisiau trio”, meddai.

“Oni’n meddwl, mae hwna’n edrych yn rili cool so gesh i decs bach cyntaf fi ac yna gig cynta fi yn parti penblwydd anti fi”.

Ers y gig gyntaf mae Efan wedi perfformio mewn nifer o gigs ar draws y gogledd ac yn dweud bod y gwaith paratoi yn drylwyr.

“Efo gigs cyntaf fi, doeddwn i ddim eisiau i rhywbeth fynd yn rong felly oedd gen i really specific set list”.

“Dwi di bod yn rili heavily influenced gan DJ’s o’r 90”, meddai.

Gyda’r paratoi yn drylwyr mae Efan yn dweud bod perfformio yn rhoi gwefr iddo.

“Oedda fi isho i bobl deimlo yr un peth oeddwn i’n teimlo wrth wylio’r DJ’s mawr ma a cael pawb arall i deimlo fo”.

Mae Efan hefyd i'w weld yn aml yn perfformio i’w gyd-ddisgyblion yn Ysgol Llanllechid, a’i ffrindiau wrth eu boddau, meddai pennaeth yr ysgol.

“Mae o mor broffesiynol i feddwl fod o’n hogyn 10 oed”, meddai Gwenan Davies Jones, Pennaeth Ysgol Llanllechid.

“Mae ganddo fo y gêr i gyd ac mae’i fam a’i dad yn gefnogol ac yn helpu'r ysgol hefyd”.

“Roedd y plantos i gyd wrth eu boddau yn dawnsio a neidio o’i flaen o - yn cael modd i fyw”.

Yn y pen draw, mae Efan yn gobeithio gwireddu breuddwyd rhyw ddiwrnod o wneud y naid o lwyfannau lleol i rai cenedlaethol.

“Festivals mawr fel Glastonbuty a Tomorrow Land”, meddai.

“Dwi eisiau gwneud rhestr o’r llefydd dwi eisiau chwarae a dwi ddim am stopio tan dwi’n gorffen y rhestr yna”.

“Ond ia, Glastonbury...  that’s the dream!”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.