'Her calendr adfent': Dringo Pen y Fan er cof am ddau fu farw
Mae cyn filwr o Aberdâr wedi penderfynu dringo copa uchaf y de gyda 25kg ar ei gefn bob dydd ym mis Rhagfyr nes Diwrnod Nadolig.
Bydd Darren Thomas yn cwblhau calendr adfent o fath gwahanol eleni wrth iddo ddringo Pen y Fan gyda’i fag llawn pwysau am 25 diwrnod yn olynol.
Yn sylfaenydd elusen iechyd meddwl Signposted Cymru, mae’n gobeithio codi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl.
Ac mae’n dweud bod ei fag yn symbol hollbwysig sy’n cynrychioli baich pwysau meddyliol.
“Ein neges yw ‘cario baich iechyd meddwl rhywun arall.’
“Mae hwnna’n golygu dringo Pen y Fan bob dydd am 25 diwrnod, yn cario 25kg sydd yn cynrychioli baich rhywun arall neu dy hun,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
Dywedodd ei fod yn hanfodol codi ymwybyddiaeth adeg yma o’r flwyddyn gan fod nifer o bobl yn “stryglo gyda’i iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hyd at Nadolig.”
Cynnal yr her er cof am eraill
Mae’r cyn filwr yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth am heriau iechyd meddwl, ac mae’n dweud ei fod ef wedi dioddef yn y gorffennol hefyd.
Mae’n cynnal yr her eleni er cof am ddau berson lleol a fu farw ar ôl brwydro gyda phroblemau iechyd meddwl.
Fe fuodd Lucy Gardner o Aberdâr farw yn 39 oed ar 2 Gorffennaf 2022. Yn 28 oed fe fuodd Alex Meek o Ferthyr farw ar 25 Tachwedd y llynedd.
“Mae Alex a Lucy yn agos at ein calonnau. Fe ‘nathon ni gamu mewn a cheisio eu helpu ond yn anffodus fe gymeron nhw eu bywydau eu hunain.
“Felly er cof amdanyn nhw da ni’n ceisio helpu pawb… mae’n gwthio fi ac yn fy annog i wneud yr heriau dwi’n ‘neud,” meddai.
Dyma yw’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Mr Thomas gynnal her Nadoligaidd fel rhan o’i waith ymgyrchu.
'Dim byd gwaeth 'na cholli plentyn'
Dywedodd teuluoedd Lucy Gardner ac Alex Meek eu bod yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth y mae Darren Thomas a’i elusen wedi rhoi iddyn nhw a’u plant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r teulu Gardner wedi codi dros £25,000 tuag at yr elusen ac mae'r teulu Meek wedi codi dros £30,000.
Roedd tad Alex Meek, Paul Meek, yn awyddus i ganmol Mr Thomas am ymrwymo i helpu ar bob achlysur.
“Yn siarad o brofiad, fe wnes i gysylltu gyda nifer o sefydliadau… er mwyn cael help i Alex ac o’n i methu cael e.
“Fe wnes i roi un galwad ffôn i Darren gyda Signposted Cymru ac fe gafodd Alex ei weld ar unwaith.
“Dwi’n meddwl y byd o Darren, ‘da ni’n ffrindiau mawr. Mae wedi bod yn gefn i fi.
"Does ‘na ddim byd gwaeth ‘na cholli plentyn,” meddai.
Dywedodd mam Lucy Gardner, Michele Gardner y bydd hi a’i theulu yn “ddiolchgar am byth” am y cymorth y maen nhw wedi cael ers marwolaeth ei merch.
“Mae Signposted Cymru a Darren wedi rhoi cymaint o gymorth i ni er mwyn ceisio ein helpu ni i fyw gyda’r drasiedi deuluol yma.
“Byddai Lucy wedi bod mor falch o fod yn rhan o rywbeth da i bobl mewn angen. Roedd hi mor garedig i bawb ac mae colled fawr ar ei hol.”
Dywedodd Darren Thomas ei fod ef wedi cael ei “adael i lawr” gan y gwasanaethau cyhoeddus yn y gorffennol. Mae hynny meddai yn ei wthio i gynnig cymorth “ar unwaith” i bobl eraill.
Mae’n cydnabod bod y GIG dan bwysau ond mae’n galw am wella gweithredu ar frys.
Dywedodd fod Ms Gardner a Mr Meek hefyd ymhlith y rheiny wnaeth ddim cael yr help roedden nhw angen.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac arbenigol i'r rhai sydd eu hangen.”
"Ond mae gwella iechyd meddwl a lles yn gofyn am ddull aml asiantaeth a thraws lywodraethol o fewn y pwerau sydd gennym.”
Ychwanegodd y llefarydd bod ganddyn nhw “ddull gweithredu hirdymor” fel sydd wedi ei nodi yn eu Strategaeth ddrafft Iechyd Meddwl a Llesiant.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.