Rhybudd melyn am wynt a glaw i Gymru gyfan dros y penwythnos
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt a glaw i Gymru gyfan dros y penwythnos.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 15:00 ddydd Gwener ac yn parhau tan 06:00 fore Sul.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod posibilrwydd i wasanaethau rheilffyrdd, awyr a fferi gael eu heffeithio.
Gall rhai adeiladau wynebu difrod hefyd yn sgil y tywydd, gyda rhai cartrefi a busnesau yn profi llifogydd o bosib yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'n bosib hefyd y bydd y tywydd yn effeithio ar gyflenwadau trydan.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio bod posibilrwydd y gall rhannau o ogledd a gorllewin Cymru yn benodol brofi effeithiau'r llifogydd, gyda rhai ardaloedd yn wynebu hyd at 50-70mm o law.
Bydd rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym i ogledd Cymru ddydd Iau o 15:00 hyd at 06:00 fore Gwener.
Bydd y rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Y Fflint
- Wrecsam