Abertawe: Dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio
Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ger Pen-maen, Abertawe brynhawn Gwener.
Fe gafodd y dyn 50 oed o ardal Sandfields, Abertawe ei dynnu allan o’r dŵr yn dilyn y digwyddiad am tua 13:00.
Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau arwain yr ymdrech a oedd yn cynnwys nifer o'r gwasanaethau brys, gan gynnwys yr heddlu, i’w achub.
Cadarnhaodd parafeddygon fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle tua am tua 16:00.
Mae ei deulu wedi cael gwybod.