Newyddion S4C

Awyrlu UDA 'ddim yn gyfrifol am achosi bŵm sonig dros y gogledd orllewin'

06/06/2025
Awyren F-15E

Mae Llu Awyr Unol Daleithiau America wedi dweud nad eu hawyrennau nhw a wnaeth achosi ‘bŵm sonig’ dros ogledd orllewin Cymru ddydd Mawrth.

Mae adroddiadau fod pobl wedi clywed sŵn mawr o Lanrug i Lanfairfechan i Lanllyfni tua 14.00.

Roedd rhai wedi rhannu tudalen o wefan y BBC yn dweud mai daeargryn oedd yn gyfrifol, ond roedd yr erthygl honno wedi bod ar-lein ers o leiaf 2018.

Roedd eraill yn dyfalu mai ‘bŵm sonig’ (sonic boom), pan mae awyren yn teithio drwy’r awyr yn gynt na chyflymder sŵn, oedd wedi achosi'r glec.

Dywedodd y Llu Awyr Brenhinol ar y pryd nad nhw oedd yn gyfrifol ond dywedodd Llu Awyr Unol Daleithiau America eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Ddydd Gwener, fe gadarnhaodd Llu Awyr Unol Daleithiau America wrth Newyddion S4C fod dau o’u hawyrennau dros ogledd Cymru ddydd Mawrth.

“Roedd dwy awyren F-15E o 48fed asgell y llu yn ardal gogledd Cymru ar yr adeg dan sylw,” meddai'r Capten Ryan J. Walsh o Awyrlu UDA.

“Ond ni chafodd y naill awyren na’r llall ddigwyddiad uwchsonig.”

Dywedodd Llu Awyr Brenhinol Y Fali ar Ynys Môn: "Rwy ar ddeall bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio i'r mater hwn ond gallaf gadarnhau nad awyren o RAF Fali oedd hon."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth Newyddion S4C “nad oedd yn fater i’r heddlu” ond eu bod nhw wedi gweld adroddiadau ar-lein yn awgrymu efallai mai daeargryn oedd yn gyfrifol.

Dywedodd un cyfrannwr dienw ar Facebook bod “ffenestr fy nghar wedi cracio”.

Ychwanegodd un arall mai “air craft yn fflio yn Llanllyfni, sonic boom" oedd y twrw. "Manw’n trainio yma".

Llun: Awyren F-15E.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.