Newyddion S4C

‘Teimlad o falchder’: Mwy o Gymry yn ffafrio enwau Cymraeg ar eu heiddo

Tai Cymraeg

Mae mwy o bobl ledled Cymru yn ffafrio enwau Cymraeg ar eu tai, strydoedd neu fusnes, yn ôl ymchwil newydd.

Mae'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos fod Cymry dair gwaith yn fwy tebygol o newid enw eu cartref o enw Saesneg i enw Cymraeg, i gymharu ag o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Dangosodd yr adroddiad hefyd fod mwy o enwau tai yn cael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg nag o'r Gymraeg i'r Saesneg ym mhob rhanbarth o Gymru.

Derbyniodd awdurdodau lleol dair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg nag enwau Saesneg rhwng 2018 a 2023.

Mae'n dangos "newid clir" tuag at ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg, yn ôl ymchwilwyr, gydag enwau tai Cymraeg yn rhoi "ymdeimlad o falchder, lle neu hiraeth" i bobl ledled Cymru.

Canolbwyntiodd yr ymchwil yn bennaf ar enwau eiddo, enwau busnesau ac enwau strydoedd.

Nododd hefyd yr angen o ymchwil pellach i enwau ar gyfer nodweddion topograffic yn yr amgylchedd naturiol hefyd.

Yn ôl yr adroddiad os bydd enw tŷ yn cael ei gyfieithu, mae’n dair gwaith fwy tebygol mai o’r Saesneg i’r Gymraeg y byddai’n cael ei ailenwi, nid o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Nid yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn iaith enw'r eiddo, medd yr adroddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford, fod enwau lleol yn helpu i “adrodd stori pwy ydym ni fel cenedl”.

“Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn ein helpu i ddeall ein tirwedd ieithyddol.”

“Rwy'n falch o weld mwy o bobl yn cofleidio enwau eiddo Cymraeg, waeth beth fo'u cefndir." meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.