Newyddion S4C

Rhybudd melyn am fellt a tharanau i siroedd y de

Rhybudd melyn am fellt a tharanau

Mae rhybudd melyn am gawodydd trwm a mellt a tharanau yn siroedd y de ddydd Sadwrn.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 09:00 ac yn parhau tan 18:00.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai cawodydd, mellt a tharanau yn gallu arwain at oedi ar y ffyrdd.

Maen nhw'n rhybuddio am amodau gyrru heriol oherwydd dŵr ar y ffordd a chenllysg yn disgyn.

Hefyd mae'n bosib bydd oedi i wasanaethau trên a bws.

"Bydd disgwyl cawodydd trwm yn aml a mellt a tharanau rhan fwyaf o'r dydd," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

"Fe allai 10-15mm o law disgyn mewn cyfnod o awr, gyda 30-40mm mewn rhan mannau.

"Bydd mellt yn aml a gwyntoedd cryfion yn ogystal."

Bydd y rhybudd yn effeithio'r siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.