Arestio dyn 18 oed wedi i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn y Barri

Ynys y Barri

Mae dyn 18 oed wedi’i arestio wedi i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn ei goes ar Ynys y Barri ddydd Lun.

Cafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad, ond mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad yw’r anafiadau “yn rhai all newid bywyd”.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Lisa Gore: “Rydym wedi arestio rhywun dan amheuaeth ac ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall.

“Rydym yn deall bod hyn wedi achosi pryder sylweddol a bydd gennym bresenoldeb cynyddol yn yr ardal dros y dyddiau nesaf i dawelu meddyliau pobl.

“Hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi cynorthwyo ein hymchwiliad hyd yn hyn.”

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2600163243.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.