America yn cynnal 'ymosodiadau hunan-amddiffyn' ar dargedau yn Iran

Awyren F35 yn paratoi i lanio

Mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiadau newydd ar dargedau yn Iran.

Fe wnaeth datganiad o Bencadlys Canolog lluoedd America dros nos gadarnhau eu bod wedi targedu safleoedd lansio taflegrau a chychod oedd yn ceisio gosod dyfeisiau ffrwydrol (mines) mewn cyfres o gyrchoedd “hunan amddiffyn.”

Daw’r ymosodiadau wedi i America ddweud bod trafodaethau rhwng y ddwy wlad dros gytundeb heddwch yn symud ymlaen, gyda llefarydd ar ran Iran hefyd yn cadarnhau bod “fframwaith wedi’i gytuno.”

Nid yw Iran wedi ymateb i’r ymosodiadau diweddaraf ac nid yw’n eglur pa effaith y bydden nhw’n ei chael ar y trafodaethau.

Wedi’r cyrchoedd gan luoedd America, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Marco Rubio y byddai cytundeb rhwng y ddwy wlad yn bosib.

“Cawn weld os y gallwn symud y trafodaethau ymlaen.”

Dywedodd bod yr Arlywydd Trump “yn dymuno” cael cytundeb.

“Fe fydd naill ai yn creu cytundeb da, neu ddim cytundeb o gwbl,” meddai Rubio.

Daw wedi i brisiau olew syrthio ddydd Llun yn sgil gobeithion y gallai rhyfel yr Unol Daleithiau ac Israel ag Iran ddod i ben â chytundeb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.