'Amhrisiadwy': Aelwyd yn Sir Gâr yn dathlu hanner canrif
'Amhrisiadwy': Aelwyd yn Sir Gâr yn dathlu hanner canrif
Mae aelwyd sydd wedi rhoi'r profiad o ganu, actio, dawnsio a chlocsio i filoedd o blant yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Alex Jones, Alexandra Roach ac Owain Wyn Evans, yn dathlu hanner canrif o flynyddoedd ers ei sefydlu eleni.
Sefydlwyd Aelwyd Penrhyd, yn Nyffryn Aman, yn 1976 gan Jennifer Maloney.
Roedd Jennifer wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac yn awyddus i’w phlant gael y profiad o gystadlu mewn eisteddfodau, fel yr oedd hi wedi eu mwynhau yn ystod ei phlentyndod.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ar faes Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn, dywedodd Jennifer: “Ro’n in byw mewn aelwyd di-Gymraeg gartref ond achos oni’n canu ag adrodd fy hunan yn ysgol pan oni’n saith mlwydd oed, o’n i moyn i’r plant i gael traddodiad a diwylliant Cymreig a felly dechreues i adran pentre' - ac o fana oedd e wedi tyfu.
“Canu ac adrodd oedden ni’n wneud, ond odd plant yn dod i’r adran yn moyn dawnsio gwerin. Felly dysgais i ddawnsio gwerin o scratch, nes i, o llyfrau. Ac yn 1979 o’ ni wedi cystadlu am y tro cynta' yn dawnsio gwerin, a enillon ni.”
Man cychwyn rhai o sêr Cymru
Ymhlith y niferoedd o blant sydd wedi meithrin eu crefft yn yr adran, mae sawl person wedi cael gyrfa hynod lwyddiannus.
“Mae enwau pobl fel Alex Roach, Alex Jones o’r One Show, Owain Wyn Evans y drymiwr, Simon Watts a Gareth Jewell, wedi bod da’r adran," meddai Jennifer Maloney.
“Rwy’n ffrindiau mawr gyda Heledd Cynwal, mae hi a’i theulu yn gefnogol iawn i’r adran.
“Mae’n hyfryd bod nhw di gallu gweud taw oherwydd bod nhw wedi bod i’r adran, maen nhw di gallu cael yr hyder i wneud beth maen nhw’n wneud nawr.”
Mae un o’r aelodau presennol, Ava Walters, wedi bod yn cynrychioli’r aelwyd eleni, a hynny ar ôl bod yn rhan o daith Ewropeaidd y sioe lwyfan Grease.
Dywedodd Ava: “Pan o'n i'n 16 nes i benderfynu, o'n i'n moyn mynd i Llundain a gwneud musical theatre i dawnsio, canu ac acto. Hwnna oedd main goal fi ac o'n i moyn e i gyd trwy'r amser.
“So nes i fynd lan, aros yna am chwe mlynedd nawr a wedyn nes i graddio'n yr haf a mynd syth mewn i Grease the Musical a gwneud European tour, a oedd e'n amazing.
“Ond oedd yr aelwyd rili di helpu ‘da hyder fi a popeth yn dawnsio, oedd e'n grêt. Bydden ni ddim ble i fi heddi’ hebddo fe rili. Mae fe rili di helpu.”
Dathlu
I ddathlu’r garreg filltir, fe gafodd cyngerdd arbennig ei chynnal Neuadd Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ionawr, ac fe wnaeth Jennifer drefnu taith arbennig Batagonia i 33 o fyfyrwyr.
Dywedodd un aelod, Lois Campbell, am y daith: "Oedd e’n rhywbeth oedd Jen wedi bod yn sôn ei fod eisiau gwneud ers sbel, felly fe wnaethon ni benderfynu, er mwyn dathlu'r hanner canrif, fyddwn ni'n mynd.
"Ac roedd hi'n brofiad, nai fyth anghofio, roedd hi'n brofiad sbesial iawn.”
Mae’r aelwyd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant mewn eisteddfodau’r Urdd dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Ychwanegodd Jennifer: “Fi ffili dweud faint ni wedi ennill. Ni wedi ennill lot, ond nid dim ond dawnsio gwerin a clocsio da ni’n neud yn yr adran. Mae cân actol ‘da ni, corau, disgo, popeth fel ‘na.
“Fi di bod i’r steddfod ers i ni ddechrau yn 1976, bob blwyddyn heb law am Foot and Mouth a Covid. Os bydde rywun di gofyn i fi pryd ‘ny byddan ni'n neud e nawr, bydden i’n dweud - na.”
Er bod miloedd wedi dod drwy ddrysau’r aelwyd yn Rhydaman, mae un person wedi bod yn galon i’r cyfan.
“Mae Jennifer Maloney yn gymeriad unigryw iawn, fi'n meddwl. Does dim Jennifer Maloney arall,” meddai Lois Campbell.
"Mae'r cyfraniad mae hi wedi ei wneud, nid yn unig yn ardal Dyffryn Aman, ond tu hwnt i hynny, mae wedi bod yn amhrisiadwy.
“Mae'r cyfleoedd mae hi wedi rhoi i filoedd o blant a phobl ifanc yn Sir Gâr yn anhygoel, ac mae dyled gymaint, gymaint o blant a phobl ifanc yr ardal iddi hi.
“Heb Jen, fe fydda ni'n sicr, a dwi'n siŵr alla’i siarad ar ran gymaint o bobl eraill, fe fydda ni llawer tlotach heb Jennifer Maloney ac Adran Penrhyd.”