Y cyfryngau cymdeithasol 'mor niweidiol ag ysmygu' i blant medd adroddiad

Dynes yn edrych ar ei ffôn

Mae peryglon y cyfryngau cymdeithasol wedi eu cymharu i'r rhai achoswyd gan ysmygu, yn ôl adroddiad newydd gan un o brif gyrff meddygol y wlad.

Mae’r adroddiad, sydd wedi ei gyhoeddi gan Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol, yn argymell sawl mesur sydd eisoes wedi’u gosod yn Awstralia, gan gynnwys gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed.

Mae’r adroddiad yn cynnwys profiadau meddygon ar draws y DU sydd yn disgrifio sgil effeithiau dinistriol y cyfryngau cymdeithasol ar blant.

Mae'r rhain yn cynnwys straeon am farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i hunan-niweidio, yn ogystal â phornograffi eithafol, trais a radicaleiddio.

Dywedodd Dr Emily Sehmer, sy'n Seiciatrydd Ymgynghorol Plant, yn yr adroddiad: “Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn nifer fawr o atgyfeiriadau ar gyfer plant sydd â phryder, iselder, diffyg sylw, anhwylderau cysgu, ymddygiadau heriol, trais, ac ideoleg wenwynig o ganlyniad uniongyrchol i amser a dreulir ar-lein.

“Ni ddylid byth fod wedi disgwyl i blant, na chaniatáu iddynt fyw yn y byd hwn ar eu pen eu hunain.”

'Radicaleiddio'

Mae astudiaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi canfod fod dros hanner y meddygon teulu a holwyd wedi ymateb i o leiaf un achos o niwed i iechyd yr wythnos oedd yn gysylltiedig â dyfais neu dechnoleg.

Yn ôl Ofcom yn 2023, roedd 27% o blant 11 oed wedi gwylio pornograffi, gyda’r oedran ar gyfer gwylio pornograffi am y tro cyntaf yn 13 oed ar gyfartaledd.

“Rydym yn gweld ton o blant sydd wedi’u radicaleiddio wedi blynyddoedd o ynysu cymdeithasol, sydd yn peri risg gwirioneddol ac o bosib, hynod niweidiol i gymdeithas,” meddai Dr Sehmer.

Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, llywydd Y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus: “Mae plant yn cael eu hamlygu i gynnwys niweidiol o ganlyniad i ddyluniad y systemau, sy’n cael eu gyrru gan algorithmau wedi’u hadeiladu i wneud y mwyaf o ymgysylltiad, sydd yn aml yn cynyddu amlygiad i seiberfwlio, cynnwys hunan-niweidio, camwybodaeth, delfrydau corff niweidiol, a chynnwys niweidiol arall.

“Maent yn cynrychioli marchnad gyfoethog, gan greu gwrthdaro strwythurol rhwng proffidioldeb a lles plant, patrwm y mae iechyd y cyhoedd wedi’i wynebu o’r blaen mewn diwydiannau fel tybaco, alcohol a gamblo.”

Nododd yr adroddiad hefyd bod gor ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gysylltiedig â phroblemau corfforol fel gordewdra.

Bydd teuluoedd i blant sydd wedi eu heffeithio gan y cyfryngau cymdeithasol yn cyfarfod â’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer ddydd Mawrth er mwyn galw am waharddiad i blant dan 16 oed ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.