Teyrnged i fam o Fôn a lansiodd wefan i helpu eraill sydd â chanser

Elen Hughes.jpg

Mae mam i dri o blant a lansiodd wefan i helpu eraill sydd â chanser wedi marw ddydd Sul.

Cafodd Elen Hughes o Fôn ddiagnosis o ganser y fron pan oedd hi’n 37 oed, cyn cael ail ddiagnosis o ganser y fron cam pedwar yn 44 oed yn 2016.

Ym mis Medi y llynedd, lansiodd wefan Gymraeg i gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser.

Cyhoeddodd y wefan Ffynnu, a gafodd ei lansio ganddi ar y cyd â Nia Elain Roberts o Landwrog, neges ddydd Llun: “Gyda thristwch mawr mae'n rhaid rhannu y buodd Elen farw fore ddoe yng nghwmni ei theulu. 

“Roedd Elen yn ffrind arbennig i lawer ohonoch sy'n dilyn Ffynnu.

“Braint oedd sylfaenu Ffynnu hefo chdi Elen ond braint mwy oedd cael dy alw'n ffrind. 

“Mi fyddai'n dal ati fel nes di ofyn i mi addo gwneud x.”

Mewn teyrnged i'w mam ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedod Catrin Elen Limberg, merch Elen Hughes: "Hi oedd y person mwyaf caredig, llawn cariad a chryfder, a chalon ein teulu ni. 

"Roedd pawb oedd yn ‘nabod mam yn gwybod mor ddisglair oedd hi a faint oedd hi’n ofalu am bawb o’i chwmpas. 

"Roedd hi’n gallu rhannu ei chariad hefo pawb a helpu pobol arall er ei bod mor sâl ei hun."

Wrth esbonio wrth Newyddion S4C y llynedd pam ei bod yn lansio Ffynnu, dywedodd Elen Hughes: "Ryw ddiwrnod o’n i’n meddwl ‘Be ‘sa ’di bod yn help i fi pan o’n i yn mynd trwy hyn?’ ag yr ateb ydi hefo fi, 'y we'.

"Ma’r we yn gallu agor y byd i fyny, be oedd y we ddim yn gallu gynnig oedd gwasanaethau Cymraeg, mi oedd ‘na ddigon o wasanaethau o bob rhan o’r byd ar gael, ‘chydig iawn yn Gymraeg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.