Buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn 'newid y gêm yn y wlad'
Mae buddugoliaeth hanesyddol Cymru i ennill eu lle yn Euro 2025 nos Fawrth yn 'newid y gêm yn y wlad' yn ôl capten y tîm.
Fe enillodd Cymru o 2-1 yn erbyn Gwerinaeth Iwerddon yn Nulyn, gyda chic o'r smotyn gan Hannah Cain ac ergyd wych gan Carrie Jones.
Dyma’r tro cyntaf i dîm merched Cymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ryngwladol.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau mantais o 3-2 dros y ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer y bencampwriaeth.
Bydd Euro 2025 yn cael ei chynnal yn y Swistir ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd capten Cymru Angharad James: "Dwi'n credu bydd hyn yn newid y gêm yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli pobl ifanc i chwarae i Gymru yn y dyfodol a dwi mor falch o beth mae'r grŵp yma wedi gwneud i bêl-droed a phêl-droed menywod yng Nghymru.
"Gobeithio fedrith nhw gyd ddod tu ôl i ni a cael trip bach allan i Switzerland."
Ychwanegodd Carrie Jones: "Mae'n enfawr iawn, yn enwedig i ferched o ganol Cymru, does 'na ddim llawer o facilities a pethau fel 'na so mor hapus i gael y visibility yna i ferched ar draws Cymru."
'Anhygoel'
Mae'r tîm wedi bod yn brwydro ers degawdau i gyrraedd y sefyllfa bresennol yn ôl cyn-chwaraewr Cymru Nia Jones.
"Achievement anhygoel gan y genod yma ond ma' nhw wedi bod yn brwydro am hyn ers y '70au so ma' dagrau ar y cae, dagrau oddi ar y cae, ma' jest yn anhygoel," meddai.
Ychwanegodd cyn-chwaraewr dynion Cymru, Owain Tudur Jones: "'Dan ni gyd yn dalld pwysigrwydd hyn i'r tîm yma, i'r merched sydd 'di cynrychioli Cymru dros y blynyddoedd a wedyn ma' jest yn ysbrydoli'r cenhedlaeth nesaf hefyd."
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru