Newyddion S4C

Cwestiynu Lucy Letby am farwolaethau mewn ysbyty yn Lerpwl

Lucy Letby

Mae'r heddlu yn Sir Gaer wedi cadarnhau bod Lucy Letby wedi cael ei chyfweld fel rhan o ymchwiliad i farwolaethau mwy o fabanod.

Yn ôl y llu maen nhw wedi siarad gyda'r cyn nyrs yn "ddiweddar" ynglŷn â marwolaethau a llewygu oedd ddim yn angheuol babanod yn Ysbyty Merched Lerpwl ag Ysbyty Iarlles Caer.

Daw'r honiadau yma mewn stori gan y Daily Mail. 

Cafodd Letby ei chanfod yn euog o lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio saith arall yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng 2015 a 2016.

Y gred yw nad yw hi wedi cael ei holi ynglŷn â marwolaethau yn yr ysbyty yn Lerpwl o'r blaen. Fe weithiodd hi 30 shifft yno rhwng 2012 a 2015.

Mae ditectifs yn edrych ar yrfa cyfan Lucy Letby sy'n golygu adolygu mwy na 4,000 o achosion o fabanod yn yr unedau newydd-anedig lle'r oedd hi'n gweithio.

Ym mis Hydref fe ddatgelodd rhaglen BBC Panorama bod digwyddiadau a allai beryglu bywyd wedi digwydd mewn bron i draean o'r shifftiau yr oedd Letby yn gweithio yn Lerpwl. 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.