Ceudwll Merthyr: Rhai trigolion i gael dychwelyd adref 'erbyn diwedd yr wythnos'
Fe fydd rhai trigolion mewn stad o dai ym Merthyr yn cael dychwelyd i’w cartrefi ar ôl i geudwll mawr agor yn ystod y penwythnos.
Cafodd tua 30 o gartrefi eu gwacáu ar ôl i geudwll agor ar cul-de-sac Nant Morlais fore Sul.
Y gred yw bod ffos wedi chwalu ar ôl glaw trwm wedi Storm Bert.
Mae peirianwyr yn "gweithio ar ddatrysiad er mwyn sefydlogi’r twll mor fuan â phosib", yn ôl Cyngor Merthyr Tudful.
Mae’r cyngor yn gobeithio y bydd rhai trigolion yn gallu dychwelyd i’w tai cyn diwedd yr wythnos.
Mae swyddogion diogelwch ar y safle 24 awr y dydd er mwyn ei ddiogelu, yn ôl yr awdurdod.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Ein nod yw cael rhai o drigolion y tai ar ben isaf y Cul-de-sac yn ôl adref erbyn diwedd yr wythnos. Rydym yn gweithio gyda Dŵr Cymru er mwyn cael y cyflenwad o ddŵr yn ôl i’r tai yno.
“O ran gweddill yr ystâd, rydym yn gweithio gyda’r cwmnïau perthnasol i ail-gysylltu cyflenwadau i’r tai sydd yn weddill.
“Unwaith eto, diogelwch yw ein blaenoriaeth bennaf.”
Fe gychwynnodd y gwaith argyfwng ddydd Llun.
Mae’r gwaith yn cynnwys parhau gydag archwiliadau o’r geuffos, cynnal arolwg o’r tir i geisio canfod tyllau eraill a gosod argae ar Nant Morlais er mwyn gallu pwmpio’r dŵr i ffwrdd o’r geuffos.